02 Cwm Teigl

Cefndir hanesyddol

Ardal ag Afon Teigl yn ffin iddi yn y de ddwyrain, ac sy’n cynnwys y tiroedd caeedig ar lethrau isaf y Manod Mawr i lawr at y tir amaethyddol gwell yng nghyffiniau Pengwern, dyma un o ddim ond tair neu bedair ardal o fewn yr astudiaeth sydd ag amaethyddiaeth yn brif nodwedd iddi (gweler hefyd 24, 26 a 27). Saif i’r de a’r de-ddwyrain o Flaenau Ffestiniog ac mae’n diffinio cyrion allanol yr astudiaeth.

Dengys Rhôl Gymorth Lleyg Meirionnydd mai plwyf Ffestiniog oedd y tlotaf ym Meirionnydd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg (ei gynhwysedd trethadwy hynod isel oedd 6 swllt y fil o erwau, o’i gymharu â £7 ar gyfer Penrhyndeudraeth, sef y plwyf cyfoethocaf), a dyma hefyd ‘yr ardal leiaf datblygedig yn yr holl blwyf, yr un gyda’r nifer lleiaf o drigolion, a’r tlotaf’. Felly nid yw’n syndod nad oedd mae’n debyg unrhyw amaethyddiaeth ganoloesol wedi datblygu, ac nid oes ond ychydig olion yn y tirwedd sy’n dyddio o’r cyfnod hwnnw. Ceir ychydig olion o aneddiadau cynhanesyddol posibl yma, ond dim patrymau caeau amlwg o’r cyfnod hwnnw.

Y mae’n ardal a oedd yn rhannol ym mherchnogaeth ystâd Tan y Manod ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffaith sy’n amlwg yng nghysondeb dyluniad a gwedd rhai o’r adeiladau amaethyddol. Aeth nifer o’r ffermydd yn ddiweddarach i ddwylo chwarelwyr, neu yn fwy aml bryd hynny, stiwardiaid a rheolwyr. Fodd bynnag, mae’r ardal wedi cadw ei hawyrgylch amaethyddol, yn hytrach na'r aneddiadau economi-gymysg a welid yn ardaloedd chwarelyddol Sir Gaernarfon.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Systemau caeau o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffermydd cerrig, coedlannau

Mae'r caeau, yn bennaf yn amgaeadau mawr afreolaidd o dir pori a ddiffinnir gan waliau cerrig mawr a thrawiadol yn aml (er y ceir ffensys pyst a weiren mewn rhai mannau). Mae’r ffermydd wedi’u gwasgaru dros ardal eang gydag un llwybr yn arwain atynt (ychydig o ffyrdd sydd), ond er hynny maent yn adeiladau sylweddol o garreg (fel arfer gydag wyneb dwbl ac yn ddeulawr), gydag ystod o adeiladau allanol o’u cwmpas wedi’u codi o garreg, ac fel arfer wedi’u trefnu’n fras ar ffurf buarth. Maent bron i gyd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda llawer o ychwanegiadau o’r ugeinfed ganrif (sydd yn aml yn cynnwys y to arferol) o haearn rhychiog wedi’i baentio’n llwyd. Tra ceir clystyrau o wrychoedd a choed yn yr ardal ni cheir unrhyw goedlannau sylweddol fel sydd i’w gweld ymhellach i’r gorllewin < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005