18 Maentwrog

Cefndir hanesyddol

Sefydlwyd Maentwrog mae’n debyg oherwydd y ffaith y saif ar bwynt mordwyadwy uchaf Afon Dwyryd, a’r man lle y croesir yr afon gan sawl llwybr, gan gynnwys mae’n debyg y ffordd Rufeinig sy’n dod i lawr o Domen y Mur yn y man a elwir yn Felinrhyd (gweler isod). Am y rheswm hwn, o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, os nad ynghynt, daeth yr ardal hon yn ganolfan ddosbarthu i’r dyffryn, gyda thystiolaeth am allforio pren o 1739, ond yn arbennig yn dilyn datblygu’r diwydiant llechi o 1760 ymlaen. Crëwyd y pentref presennol yn bennaf gan deulu Oakeley, ac mae'n cynnwys nifer o nodweddion clasurol pentref ystâd dan nawdd bonheddwyr. Mae’r pentref ei hun yn weladwy o gartref y teulu Oakeley ym Mhlas Tan y Bwlch, ac fe’i datblygwyd ganddynt yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar sail elw o'r diwydiant llechi. Mae’r eglwys (SH 6641 4055) a’r ficerdy (SH 6647 4067) yn dyddio o oddeutu 1800, ac ymddengys yr adeiladwyd y pentref ei hun ar ei ffurf bresennol yn nechrau a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fel gyda Phlas Tan y Bwlch ei hun a’i gyffiniau agos, ymdrech ydoedd yn anad dim arall, i greu anheddiad a oedd yn ddeniadol i'r golwg ac a oedd yn adlewyrchu’n dda ar ei berchnogion, ac y mae ei adeiladau yn cynnwys llawer o nodweddion a manylion addurniadol. Mae’r sawl capel a geir yno i gyd wedi’u codi ar safleoedd nad ydynt yn weladwy o’r Plas. Yn gyffredinol mae rhan hyn y pentref yn cynnwys rhes deras o dai, siopau a thy tafarn ar hyd un ochr o’r ffordd yn unig (mae’r ochr arall yn llethr bryn serth, gyda rhai adeiladau uwch lefel y ffordd). Yr un yw arddull yr adeiladau; anferth a chrand gyda waliau o gerrig lleol a ffenestri mawr a drysau Sioraidd. Mae’r ystâd fach o dai a adeiladwyd i fyny llethr y bryn tua’r de yn fwy modern.

Yn ddiddorol, dengys rhôl gymorth lleyg Meirionydd o 1923-4 fod gan Faentwrog hostelwr (William Sepder) a oedd yn unigryw yn y sir: cyfeiriwyd at bobl debyg, er enghraifft yn Nefyn, fel ‘gwestwr’ ac mae hyn yn awgrymu fod gan Faentwrog ‘hostel’ yn hytrach na thafarn gyffredin (ac efallai eu bod yn geffylau blaen mewn masnach twristiaeth!)

Cyfeirir hefyd at Faentwrog ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, Math fab Mathonwy. Ar ôl i Pryderi groesi Traeth Mawr tra’n ffoi tua’r de rhag byddin Math, cafodd ei ladd gan Gwydion mewn brwydr yn Felinrhyd (a goffeir mewn enw lle tua milltir i’r gorllewin), ac fe’i claddwyd ym Maentwrog. Mae chwedl arall yn sôn am Dwrog yn taflu clogfaen anferth oddi ar y clogwyn uwchlaw ac mae'n dal i fodoli heddiw fel maen hir wrth ochr twr yr eglwys.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Pentref ystâd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Pentref a dderbyniai nawdd uniongyrchol gan deulu Oakeley ac a ddyluniwyd mewn modd a olygai bod modd ei weld o derasau’r Plas a’i fod yn adlewyrchu clod ar yr ystâd. Mae un o gapeli anghydffurfiol prin y pentref ychydig i’r gogledd o’r pentref, ac mae eraill i’r dwyrain; ond ni ellir gweld yr un ohonynt o’r plas. Mae dyddiadau’r adeiladau’n amrywio o gyfnod y rhaglywiaeth hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ond ceir llawer o bensaernïaeth sy’n bwrpasol frodorol a darluniadol, gan ddefnyddio slabiau mawr o’r chwarel Gelli Grin (gweler ardal 29 hefyd).

Mae’r ardal yn cynnwys ôl camlas fer Cemlyn, a adeiladwyd fel trwyborth ar gyfer llechi chwarel Diffwys ac a ddefnyddiwyd i’r perwyl hwnnw hyd at 1868 < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005