| 17 Ardal ddiwydiannol Llyn Stwlan/Llyn Ystradau Cefndir hanesyddol Ardal a ddatblygwyd yn wreiddiol, yn enwedig yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar gyfer llechi ac wedi hynny ar gyfer sinc a setiau (gweler capsiwn y ffotograff). Cynllun storfa bwmp Ffestiniog sy’n dominyddu’r ardal hon, oedd y cyntaf o’i bath yng ngwledydd Prydain: dechreuwyd y gwaith ym 1957 a daeth i ben ym 1963. Lluniwyd y gronfa ddwr uchaf drwy ymestyn Llyn Stwlan gydag argae concrid, a chrëwyd yr isaf (1033 troedfedd islaw) drwy osod argae ar Afon Ystradau ger pentref dibynnol Tan-y-Grisiau. Mae dwy siafft fertigol y tu mewn i Moelwyn yn cysylltu’r naill a’r llall sy’n galluogi’r system i weithio. Mae’r orsaf bwer, ar ochr orllewinol y gronfa ddwr, yn adeilad ffrâm-ddur gydag wyneb o gerrig lleol, ac mae’n debyg mai dyma’r adeilad cerrig mwyaf i gael ei godi yng Nghymru ers cyfnod Edward I. Cymerwyd gofal gyda’r tirweddu. Rhoddwyd y gwastraff o’r argae uchaf yn y gronfa ddwr, ac mae wyneb yr argae isaf wedi’i orchuddio â chreigiau o’r gwaith cloddio.
Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd |
|||
![]() |
|||
| © Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005 | |||