|
16 Llethrau uchaf mynyddoedd y Moelwyn
Cefndir hanesyddol
Dyma ardal fawr o ucheldir anghysbell a gerwin sy’n cynnwys sawl copa uchel a’r pwysicaf ohonynt yw Manod Mawr, Manod Bach a Moelwyn Mawr. Ceir gweddillion chwareli llechi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif (er enghraifft chwarel Fron-boeth ar lethrau de orllewinol Moelwyn Mawr - gweler y ffotograff) ac isadeiledd cysylltiedig (fel tai peiriannau, incleiniau a thraciau) o amgylch gwaelod y mynyddoedd, yn ogystal â rhai waliau cau mawr, ond ac eithrio’r rhain, prin iawn yw’r arwyddion y bu anheddiad parhaol yma nac unrhyw ymgais am gynhaliaeth.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd
Mynydd agored, olion chwarela
Prif nodwedd yr ardal hon yw nad oes iddi unrhyw nodweddion arwyddocaol y bu unrhyw un yn byw nac yn gweithio yma, ac eithrio olion chwarela a rhai waliau cau < yn ôl at y map
|
|