15 Coetir o gwmpas Hafod Garegog

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal fach hon uwchlaw’r ardal o’r Traeth a adenillwyd ac wrth gyn aber Afon Glaslyn yn cynnwys nifer o adeiladau canoloesol diweddarach bach ond pwysig ac fe’i nodweddir gan goetir derw hynafol yn tyfu ar fryncynnau creigiog bach.

Rhys Goch Eryri a’i ddisgynyddion oedd yn berchen ar Hafod Garegog o’r bymthegfed ganrif i’r ddeunawfed ganrif. Yr aelod olaf o'r teulu i ddal Hafod Garegog oedd John Wyn Hughes a briododd blentyn dan oed anghyfreithlon, ac o ganlyniad i hynny pennwyd bod y briodas yn ddi-rym ac aeth yr ystâd i gefndryd, y teulu Priestley o Leeds. Mae Hafod Garegog yn ymddangos yn yr asesiad treth tir, o 1771 i 1775, a nodir bod yna Mr. Hughes yn preswylio yno yn ystod y blynyddoedd hyn; wedi hynny dangosir bod y teulu sy’n berchen ar yr ystâd yn derbyn degymau’r plwyf.

Mae hanes a chymeriad diddorol yn perthyn i goetir yr ardal. Prin yw’r wybodaeth am werthu pren. Yn yr 1760au talodd mwynglawdd Drws y Coed £2 13/- am echel ar gyfer y felin falu, gan awgrymu ei fod yn cael ei gydnabod fel ffynhonnell pren, ond fel y gwelir yn aml gydag ystadau a rhydd-ddaliadau gweddol fach, nid yw’r dystiolaeth ddogfennol wedi goroesi. Drws nesaf i Hafod Garegog ceir Tafarn Telyrni, neu Talyrni. Yn ôl y traddodiad, wrth ymyl Talyrni byddai morwyr yn arfer glanio cyn adeiladu’r cob. Mae hwn felly’n lleoliad amlwg ar gyfer llwytho nwyddau, ac efallai y defnyddiwyd pren i adeiladau llongau bach hefyd.


Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Tai, bwthyn, coetiroedd, llwybrau ac ynysoedd canoloesol diweddarach

Mae ty presennol Hafod Garegog yn adeilad dau lawr wedi’i adeiladu â rwbel gyda bloc canolog c. 1600 gydag ychwanegiadau o’r ddeunawfed ganrif. At ei gilydd, mae’r safle’n cynnwys y ty, melin ddwr, bwthyn ac ysgubor, i gyd o’r ail ganrif ar bymtheg, a rhai adeiladau fferm diweddarach. Gerllaw ceir llwybr o’r enw Llwybr Rhys Goch, sy’n arwain at hen bont. Mae adeiladau cyfagos eraill yn cynnwys Talyrni (gweler uchod), sydd hefyd o’r ail ganrif ar bymtheg, a dau fwthyn, Cefn Coch a Phen y Bont.

Mae’r coetir ar fryniau creigiog isel a chefnennau sy’n ffinio â hen wastadeddau morydol Afon Glaslyn. Mae ganddo ganopi o dderw digoes a bedw ydy’r ail goed mwyaf cyffredin, ceir hefyd griafolen ac ychydig o ffawydd. Yn gyffredinol mae’r isdyfiant yn brin ac mae’n cynnwys celyn a chyll yn bennaf. Mae pantiau yn yr ardal yn tarfu ar ganopi’r coetir, gyda phocedi o wlypdir asidig, ac mae’r mwyaf o’r rhain yn creu llyn oligotroffig, Hafod y Llyn. Ceir rhesymau hanesyddol dros dybio bod hon yn ardal a fu dan goetir parhaus am gyfnod hir; mae’r rhan fwyaf o goedwigoedd derw gorllewinol fel hyn yn digwydd ar dir serthach. Mae adfywio’n eithaf gwan < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005