|
14 Aberglaslyn tir a adenillwyd Cefndir hanesyddol Tir a neilltuwyd i William Alexander Madocks fel rhan o Ddeddf Cau Tir 1803. Draeniwyd y tir ganddo fel rhan o’r broses o adeiladu’r argloddiau amrywiol. Nid yw hi’n glir pa ardaloedd a ddraeniwyd gan argloddiau cynharach a llai, ond draeniwyd yr holl ardal pan grëwyd y Cob, a gwblhawyd yn derfynol ym 1813. Crëwyd ffermydd ar yr ardaloedd a ddraeniwyd, ac mae gwahanol reilffyrdd diwydiannol a chyhoeddus wedi croesi’r ardal ers 1842. Ar hyn o bryd mae cangen Pwllheli o’r Rheilffyrdd Rhanbarthol ac un fraich o Reilffordd Ucheldir Cymru sydd wedi’i hadfywio, ar waith yn yr ardal. |
||||
![]() |
||||
| Atgynhyrchir y map hwn o Ddeunydd yr Arolwg Ordnans gyda chaniatâd Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn torri hawlfraint y Goron a gall hyn arwain at erlyniad neu achos sifil. Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005. | ||||