12 System incleiniau a chwareli llechi Cwm Croesor a Rhosydd

Cefndir hanesyddol


Bwlch mynydd rhwng Croesor a dyffryn Ffestiniog a ddefnyddiwyd yn eang ar gyfer llechi, yn bennaf mewn gwaith tanddaearol er bod rhai pyllau agored wedi’u hagor. Chwarel Croesor, Chwarel Rhosydd, Chwarel Wrysgan a Chwarel Cwmorthin yw’r prif safleoedd. Mae hanesion manwl ac astudiaethau archeolegol wedi cael eu cyhoeddi ynghylch Rhosydd a Chwmorthin. Roedd gwaith wedi parhau’n ysbeidiol rhwng yr 1820au a’r 1990au; nid oes gwaith yn mynd rhagddo yn yr un ohonynt ar hyn o bryd.

Mae Lewis a Denton (1974) wedi disgrifio hanes y chwarel a’i phrif nodweddion yn fanwl. Ar ben hynny, mae tirweddau chwarela Blaenau Ffestiniog wedi’u hastudion fanwl iawn gan YAG, a gyllidir gan Cadw, ac mae disgrifiadau manwl o chwareli unigol (a’u hanes) ar gael mewn adroddiadau a restrir yn adran 10.3 y llyfryddiaeth.


Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

System incleiniau a chwareli llechi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Cadwyn o chwareli llechi sy'n cadw elfennau nodweddiadol gweithio yng nghraig Ordofigaidd Meirionnydd. Fel tirwedd diwydiannol mae Rhosydd yn arbennig yn cadw holl elfennau chwarela llechi, gan ddechrau gyda gwaith brig, gwaith pwll a phonciau tanddaearol. Mae lleoliadau pellennig y safleoedd wedi golygu nad oes llawer wedi tarfu ar elfennau’r tirwedd, gan gynnwys systemau dalgylch dwr. Mae’r rhain yn cynnwys systemau fel argae syenit (SH 6541 4663) a oedd yn pweru gorsaf bwer Blaen y Cwm sydd bellach yn cael ei defnyddio eto. Mae rhannau mawr o systemau cludiant y chwareli wedi goroesi. Yn ogystal â’r inclein ‘ysgol Jacob’ anarferol (SH 6577 4643 – 6537 4608) a oedd yn gwasanaethu Rhosydd (Heneb Gofrestredig) ceir yma hefyd draciau mulod cynharach, systemau certi a rheilffyrdd cyfuchlinau. Mae inclein chwarel Wrysgan a’i dwnnel uwchben Tan y Grisiau (SH 6781 4549) yn nodweddion arbennig yn y tirwedd < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005