11 Croesor

Cefndir hanesyddol

Pentref chwarel o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw pentref bach Croesor. Fe’i lleolir ar dyrpeg y deunawfed ganrif o Dan y Bwlch i Nanmor. Fe’i datblygwyd yn bennaf i gartrefu chwarelwyr a weithiai yn chwareli Rhosydd a Chroesor. Agorodd chwarel Croesor am y tro cyntaf oddeutu 1856. Ar ôl dechrau cythryblus, cymerodd Moses Kellow, rheolwr diwethaf y chwarel, yr awenau ym 1895; bu’r chwarel wedyn yn gweithio’n effeithlon fel daliad cyfunol gyda Chwarel Parc nes iddi gau ym 1930. Ystyriwyd Moses Kellow yn arloeswr dewr. Dyfeisiwyd llawer o’r peiriannau a ddefnyddiwyd yn y chwarel ganddo ef ei hun. Roedd hefyd yn gyfrifol am osod trydan yno ac yn ei gartref, pan agorodd yr orsaf trydan-dwr fawr 350kw am y tro cyntaf ym 1904.

Rhwng 1865 a 1930, cynhyrchwyd 2,000 tunnell o lechi bob blwyddyn. Paratowyd llechi am sawl rheswm - cynhyrchwyd topiau byrddau biliards yn Chwarel Parc, ynghyd â cherrig simnai, cerrig beddi, llechi ar gyfer lloriau, linteli a chynnyrch addurnol. I ddechrau byddai’r cynnyrch gorffenedig yn cael ei gludo i Reilffordd Ffestiniog ym Mhenrhyndeudraeth, ond ar ôl 1864 fe’i cludwyd i lawr i Dramffordd Croesor drwy ddefnyddio’r inclein. Mae hi dal yn bosibl cerdded ar hyd rhan o’r dramffordd hon heddiw. Mae inclein arbennig arall i’w weld uwchlaw Cwm Croesor – inclein Rhosydd. Arferai hwn gael ei ddefnyddio i gludo nwyddau yn ôl ac ymlaen o’r Chwarel. Roedd dynion hefyd yn teithio ar yr inclein er bod y rheolwyr yn gwahardd hynny’n llwyr.

Datblygwyd y pentref gan Hugh Beaver Roberts, perchennog ystâd Croesor, fel rhan o’r cynllun i ddatblygu adnoddau mwynol yr ardal. Mae hi’n debyg bod llawer o’r pentref yn dyddio o ganol yr 1860au pan osodwyd y dramffordd ar hyd y dyffryn, er bod yno rai tai diweddarach o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd Bob Owen Croesor (1885-1962), brodor adnabyddus o Lanfrothen, yn weithiwr fferm ac yn fugail, yn glerc yn Chwarel Croesor a Pharc dan Moses Kellow, yn weithiwr yn Swyddfeydd y Cyngor Gwledig ac yn ddarlithydd gyda Mudiad Addysg y Gweithwyr. Ymddiddorai’n fawr yn achyddiaeth Cymru, gan gasglu llyfrau prin a chopïo cofnodion y plwyf, a daeth yn arbenigwr ar hanes y Crynwyr. Yn ei gartref, Ael y Bryn, drws nesaf i’r capel, casglodd lyfrgell anferth o lyfrau, papurau a llawysgrifau, ac ymwelodd Americanwyr ag ef am gymorth wrth hel eu hachau. Derbyniodd MA gan Brifysgol Cymru, ac OBE am ei gyfraniad at ddiwylliant ei wlad.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Tramffordd, pentref chwarel lechi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Anheddiad bach sy’n cynnwys nifer o dai, un capel ac un ysgol yw Croesor. Mae’r defnydd a wnaed o gerrig patrymog mawr o chwareli cyfagos yn un o nodweddion y pentref. Mae’r adeiladau’n fawr gyda dau lawr yn nifer o’r tai ac maent mewn terasau byr sy’n rhedeg ochr yn ochr â llethr serth ac i gyd yn edrych tua’r de ddwyrain Gyda’u ffenestri mawr, byddai’n rhaid disgrifio’r rhain fel tai teras mawr yn hytrach na bythynnod. Ceir ambell i adeilad o’r ugeinfed ganrif yn y pentref gydag ambell i un anghysbell rhwng y canol a’r brif ffordd i lawr at Garreg. Mae’r brif ffordd hon yn mynd dros bont a adeiladwyd yn grefftus yn rhannol gyda cherrig ac yn rhannol gyda llechi. Mae llwybr hen dramffordd Croesor, a oedd yn gyfrifol am dwf yr anheddiad, yn mynd drwy waelod yr anheddiad sydd wrth ymyl yr afon ac mae modd cerdded ar hyd rhan fawr ohoni. Ceir ffens lechi wych ar hyd un ochr am ran helaeth o’r llwybr < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005