10 Porthmadog

Cefndir hanesyddol

Daeth tref Porthmadog i fodolaeth o ganlyniad i ddraenio'r Traeth Mawr gan William Alexander Madocks a’r ffaith y crëwyd harbwr yn anfwriadol gan Afon Glaslyn a sianelwyd o’r newydd, yn y fan lle yr âi drwy’r llifddorau. Mae’n dref a adeiladwyd yn rhannol ar dir gwneud ac yn rhannol ar dir uwch.

Sefydlwyd anheddiad o fath gan Madocks ar gyfer y gweithwyr oedd yn adeiladu’r Cob yn y cyfnod 1808 i 1813. Codwyd y glanfeydd cyhoeddus cyntaf ym 1825, ac yn dilyn hynny codwyd cyfres o lanfeydd gan gwmnïau chwareli unigol ar hyd y lan bron cyn belled â Borth-y-gest. Yn dilyn agor Rheilffordd Ffestiniog o’r chwareli i’r môr ym 1836, daeth diwedd yn helaeth iawn ar y system flaenorol o gludo llechi mewn certi i lawr i’r glanfeydd ar hyd Afon Dwyryd lle y cludwyd hwy wedyn mewn cychod i Ynys Cyngar i'w trosglwyddo i longau.

Er bod y llwybr cynharaf ar draws y tir oedd newydd ei adennill yn ymdroelli i’r dwyrain o’r Stryd Fawr bresennol, erbyn o leiaf 1841, yr oedd y llwybr hwn wedi’i unioni, a byddai’n cael ei ddatblygu yn brif stryd fasnachol y dref (gweler y ffotograff), gydag amrediad o wynebau siopau a thafarnau a swyddfa’r post, ond yn parhau i gadw’r tir glas agored. Ar yr un adeg, yr oedd y rheilffordd fwynau i Dremadog, yr adeiladwyd Stryd Madog ar hyd-ddi yn ddiweddarach, hefyd mewn bodolaeth. Bu i'r ddwy echel cludiant hyn roi i’r dref ei chynllun stryd nodweddiadol ar ffurf diemwnt. Mae tai i’w gweld ar fapiau mor gynnar â'r 1830au, a bu iddynt ddatblygu dros y degawdau nesaf yn rhannol oherwydd bod y twrnai David Williams yn rheoli ystâd Tremadog. Ef a sefydlodd y Genhadaeth i Forwyr ar y cei (SH 5689 3829) ym 1852 (bellach yn glwb hwylio).

Yn anarferol i dref borthladd, ni fu ym Mhorthmadog erioed fawr o dai ar gyfer gweithwyr y cei, ac ni fu yno ychwaith buteindai na thafarnau di-raen fel y ceid mewn porthladdoedd eraill ledled byd. Mae hyn yn rhannol oherwydd mai dynion lleol oedd capteiniaid a chriwiau llongau Porthmadog, ac yn eu dwylo hwy oedd y rhan fwyaf o’r fasnach. Yn bensaernïol, ceir yno yn bennaf dai sylweddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a godwyd ar gyfer y dosbarth canol lleol - nid yn unig y capteiniaid ond hefyd yr asiantau llongau, gweinyddwyr, cyfreithwyr a swyddogion chwareli. Mae’r rhain wedi cadw llawer o nodweddion arbennig. Mae’r cysyniad cyffredinol yn un o gyfnod y Rhaglywiaeth, hyd yn oed pan fo’r adeiladau lawer yn ddiweddarach eu dyddiad, a nodwedd gyffredin iawn yw’r patrwm o gerrig diddos addurniadol. Ers i’r fasnach lechi ddod i ben, daeth Porthmadog yn opsiwn deniadol i’r frawdoliaeth hwylio gymharol gyfoethog, a gwelir hyn yn y maisonettes anneniadol a godwyd ar y ceiau yn yr 1960au.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Tref borthladd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Fel tref borthladd a adeiladwyd yn newydd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ni ddatblygodd Porthmadog erioed isfyd o buteindai a bariau, ac fe’i nodweddir gan strydoedd llydain a osodwyd allan yn dda, tai sylweddol a chapeli mawr. Tra-arglwyddiaethir ar y Stryd Fawr (SH 5705 3849 – SH 5671 3885) gan adeiladau masnachol, bron y cyfan ohonynt wedi’u codi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a nodweddir Ffordd y Garth (SH 5675 3856 – SH 5684 3814) gan dai wyneb dwbl arbennig a godwyd i gapteiniaid, yn aml gyda phatrwm unigryw o gerrig diddos uwchben y drws a’r ffenestri. Mae Stryd Madog (SH 5705 3849 – 5693 3901) a’r strydoedd sy’n rhedeg rhyngddi a’r Stryd Fawr yn cynnwys y rhan fwyaf o’r tai llai, bron y cyfan yn dai dwy ystafell i fyny a dwy i lawr. Fodd bynnag, ychydig iawn sydd ar ôl o’r ardal ddiwydiannol a ffynnai unwaith i’r gogledd a'r dwyrain o'r dref, ac a oedd yn cynnwys ffowndrïau, melinau llifio coed, gweithfeydd llechi, gwaith cynhyrchu soda-pop, gwaith nwy a melin flawd. Pery’r Stryd Fawr yn ganolfan fasnachol y dref, gyda datblygiadau diweddar, yn enwedig ym mhen dwyreiniol y Cob, a cheir cyferbyniad diddorol yn nhermau cymdeithasol rhwng y tai teras bychain ar y tir gwastad sy'n arwain oddi ar y Stryd Fawr a’r tai 3 neu 4 llawr llawer mwy crand ar y bryn yn edrych i lawr ar y dref ac allan tuag at Laslyn.

Mae nifer o strwythurau wedi goroesi o ddyddiau Porthmadog fel porthladd. Mae datblygiad cyfleusterau harbwr yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod llofft hwyliau wedi goroesi a hefyd rhan o ffowndri Glaslyn a ymgorfforwyd yn archfarchnad y Co-op. Dymchwelwyd adeiladau ffowndri Glaslyn yn yr 1960au i wneud lle ar gyfer swyddfa Cyllid y Wlad, sy’n floc o swyddfeydd anneniadol yr olwg. Y mae ysgol forwriaeth Griffith Williams wedi goroesi yn SH 5685 3844, ymysg y warysau sylweddol yn y Grisiau Mawr, ac fe’i lleolwyd yn llofft Cornhill Pencei, uwchben banc Casson’s. Ceir tystiolaeth weledol o gysylltiadau diwylliannol yr ardal â'r byd eangach yn enwau tafarnau Porthmadog, megis yr Australia a’r Ship on Launch (lle y cyhoeddwyd lansio llongau newydd) < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005