01 Blaenau Ffestiniog

Cefndir hanesyddol

Anheddiad ar ffurf pedol a adeiladwyd ar silff naturiol ger toriad y llethr ym mlaenau’r dyffryn, wedi’i amgylchynu gan domenni llechi, y dref fwyaf yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae nifer o ffermdai canoloesol diweddarach wedi goroesi ger toriad y llethr, ynghyd â thai cysylltiedig â thyddynnod o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a grëwyd allan o’r ffermydd.

Tyfodd y dref o nifer o aneddiadau ar wahân ar wahanol ystadau, yn bennaf rhai’r teulu Oakeley o Faentwrog, ac Arglwydd Newborough o Lynllifon, er bod tir arall yn eiddo i sgweirynnod lleol a rhydd-ddeiliaid amaethyddol. Buwyd yn cloddio llechi o oddeutu 1760 yn Niffwys (Casson), ond datblygodd y diwydiant gyda dyfodiad cyfalaf o Loegr o 1800 ymlaen. Daeth yr aneddiadau unigol a unodd i greu’r dref bresennol i fodolaeth yn ystod yr 1820au a’r 1830au. Bu i’r cynnydd enfawr yn y boblogaeth o ddiwedd yr 1860au i ddechrau’r 1870au arwain at adeiladu’r rhesi a’r sgwariau cynlluniedig sy’n nodweddu canol y dref, yn ogystal â llawer o'r capeli sylweddol a seilwaith cymdeithasol arall. Parhawyd i godi tai hyd yr 1890au, ond ar ôl hynny ychydig o dai a godwyd hyd nes y darparwyd tai cymdeithasol ar ôl yr ail ryfel byd. Gwelwyd dirywiad economaidd diarbed yn yr ugeinfed ganrif fel y gwanychodd y diwydiant llechi, ond lliniarwyd hynny’n rhannol gan agoriad y cynllun storfa bwmp ym 1963, gorsaf bwer niwclear Trawsfynydd ym 1963, agoriad rhan o Chwarel Llechwedd fel atyniad twristaidd ym 1962 a chwblhau ailagor Rheilffordd Ffestiniog fel atyniad i dwristiaid ym 1982.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Cymuned drefol chwarelyddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg

Gwelir yn y Blaenau amrywiaeth o fathau o dai diwydiannol a phatrymau strydoedd. Mae’r unig dy uncorn a oroesodd o’r nifer a adeiladwyd ar dir Glynllifon ym 1826 yn SH 7032 4603 yn nodweddiadol o bensaernïaeth ystâd y Newborough. Mae rhesi byrion o groglofftydd wedi goroesi mewn rhai mannau, megis yn Llwyn y Gell (SH 6983 4627) ond tra-arglwyddiaethir ar y gymuned gan dai ‘dwy ystafell i fyny a dwy i lawr’ oedd fwyaf cyffredin o'r 1830au ymlaen. Yn Nhan y Grisiau mae’r enghreifftiau cynharaf (o ddechrau'r 1840au i ddiwedd yr 1860au) yn dai unigol yn sefyll wrth ochr ac yn wynebu’r rheilffordd, y prif lwybr ar gyfer pob pwrpas yn y dyddiau cynnar. O’r 1850au ymlaen, tueddwyd i’w hadeiladu mewn rhesi byr ar hyd y ffordd newydd a adeiladwyd drwy’r pentref i Riwbryfdir. Gwelir datblygiadau rhuban cyffelyb o resdai deulawr rhwng Congl y Wal a Tabernacl (SH 7051 4434 i SH 7065 4553), Stryd yr Eglwys ac o gwmpas Rhiwbryfdir (SH 6958 4635).

Prif nodwedd canol y Blaenau yw datblygiadau cynlluniedig, yn bennaf wedi’u cyfyngu i ardal hen ystâd y Newborough, lle gosodwyd rhes ar ôl rhes o dai deulawr a thri llawr rhwng Stryd yr Eglwys a’r rheilffordd (SH 6992 4596 C) neu o gwmpas patrwm o sgwariau, gyda chapeli mewn safleoedd blaenllaw (SH 6984 4581), yn amlwg ar gyfer cwsmeriaid mwy cyfoethog. Gwelir y bwriadwyd datblygiad cynlluniedig yn Sgwâr Oakeley hefyd, ond na fwriwyd ymlaen ag ef (SH 6928 4571). Nodweddir y tai gan arddulliau gwahanol, sy’n awgrymu y bu nifer o adeiladwyr lleol yn gysylltiedig â’u hadeiladu. Codwyd nifer gyda thoeau dormer pigfain unigryw. Mae’r defnydd o rendr ar ddarnau trwch drysau a ffenestri, ond yn unman arall, yn nodwedd gyffredin. Ceir sawl ty ar gynllun villa sylweddol, ar gyfer rheolwyr chwareli, yn aml gyda feranda o haearn gyrru ac addurniadau eraill

Mae sawl capel mawr wedi goroesi, rhai wedi'u haddasu i ddefnydd arall, rhai wedi cau ac ychydig yn parhau i gael eu defnyddio fel mannau i addoli. Mae llawer wedi cael eu dymchwel. Mae'r seilwaith cymdeithasol sydd wedi goroesi yn y Blaenau hefyd ar raddfa fawr. Diogelwyd Neuadd y Farchnad (SH 6979 4593) ond y mae llawer o’r siopau sylweddol eu maint o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar Stryd yr Eglwys wedi cau ac mewn cyflwr gwael. Mae Ysbyty Chwarel yr Oakeley, sy’n dyddio o 1848 (SH 6964 4633) ac Ysbyty Goffa’r Arwyr o 1925 (SH 7021 4546) a gynlluniwyd gan Clough Williams-Ellis, yn nodweddion trawiadol yn y tirwedd, ac felly hefyd yr ysgolion.

Defnyddiwyd y llechen (lwyd) Ordofigaidd a gloddiwyd yn lleol, fwy neu lai ymhobman. Mewn sawl achos, cerrig o gaeau lleol a ddefnyddiwyd i adeiladu, gyda rhai blociau mwy yn cael eu defnyddio, o bosibl o Gelli Grin ger Maentwrog (gweler hefyd ardal 29) neu o harbwr Porthmadog. Defnyddid cerrig sets yn aml ar gyfer addurno, megis ar y capeli, neu fel meini copa, ac y mae’n bosibl y daeth y rhain un ai o’r chwarel cerrig sets yn Nhan y Manod neu o chwarel Brookes yn Llyn Ystradau < yn ôl at y map

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005