Nodweddion tirwedd hanesyddol

Yn ystod y flynyddoedd ddiwethaf, mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi cyfrannu at waith yn edrych ar gymeriad hanesyddol yr ardaloedd a ddiffinnir gan Gofrestr Tirweddau Hanesyddol Cymru. Mae hyn yn rhan o brosiect ar gyfer Cymru gyfan a noddir gan Cadw: Welsh Historic Monuments, Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac ICOMOS UK, Amlinellir y cefndir isod. Y gobaith yw y bydd yn bosibl ystyried pob tirwedd yn y gofrestr yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf ac yna ehangu'r gwaith i'r rhannau hynny o Gymru sydd 'heb eu cofrestru'.

Mae'r dudalen ganlynol yn rhoi blas o'r gwaith a wnaed hyd yma yn gogledd orllewin Cymru.

I ddod

A: Creuddyn ac Arllechwedd, C: Dyffryn Nantlle a Chaernarfon

B: Ardal Arfon

D: Dyffryn Ffestiniog

E: Ardudwy

F: Trawsfynydd

G: Mawddach

Be mae nodweddion tirwedd hanesyddol ?

Mae'r grymoedd nuturiol a'r gweithgaredd dynol a fu'n gweithredu ar y cyd dros y chwe mil o flynyddoedd diwethaf wedi cyfrannu at y broses o gynhyrchu tirwedd o harddwch ac amrywiaeth hynod yng Ngymru, ased cenedlaethol sy'n hanfodol i ni o ran ein hunaniaeth genedlaethol a hefyd o ran ein lles a'n 'hymdeimlad o berthyn i le' unigol. Gellir gweld ymhobman yr amrywiaeth a'r olion a adawyd ar y tirwedd gan weithgaredd dynol, o henebion cerrig enigmatig y cyfnod cynhanesyddol a chestyll ac abatai gwych y cyfnod canoloesol, i'r nodweddion eithaf cyffredin a nodweddiadol fel ffiniau caeau a all yn aml fod yn hen iawn. Ond nid dim ond golygyfeydd deniadol neu gofnod o'r gorffennol yn unig yw'r tirwedd; mae hefyd yn darparu lle i ni fyw, gweithio a chynnal ein hunain ynddo, drwy gyfrwng amaeth, coedwigaeth, twristiaeth ac ati, oll yn broseau sy'n llunio, ac a fydd yn parhau i lunio'r tirwedd.

Bu cydnabod a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a chyfoeth ffarig hanesyddol y tirwedd yn thema ac yn neges ganolog y gofrestr anstatudol, Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru, y cyhoeddwyd y rhan gyntaf ohoni, sy'n cwmpasu trideg chwech o dirweddau 'eithriadol' ym mis Ionawr 1998. Caiff y Gofrestr ei llunio fel menter ar y cyd rhwng Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS) sy'n gweithio mewn cydweithrediad â phedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru, y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac awdurdodau unedol Cymru. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol o'r Gofrestr, yn nodi 22 tirwedd yr ystyrir eu bod o ddiddordeb hanesyddol arbennig, yn 2001. Caiff y 22 ardal hyn eu hystyried o bwys cenedlaethol hefyd, yn ogystal â'r 36 ardal o ddiddordeb hanesyddol eithriadol a nodwyd yn y gyfrol gyntaf, sydd at ei gilydd yn fwy

Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yw'r cam cyntaf, trosolwg cenedlaethol o gynnwys hanesyddol tirwedd Cymru. Y cam nesaf, mor hanfodol i'r broses o lywio'r modd y gellir rheoli agweddau ar y tirwedd cenedlaethol, yw trefnu bod gwybodaeth fwy manwl ar gael ynglyn â chymeriad y tirwedd hwn ar lefel fwy lleol. Cyflawnir hyn drwy broses a elwir yn nodweddiad tirweddau hanesyddol y gellir eu diffinio a'u mapio'n ddaearyddol, yn ôl yr hyn a benderfynir gan ystod a dosbarthiad y nodweddion archaeolegol a hanesyddol sy'n goroesi a'r prif fathau o batrymau defnydd tir hanesyddol neu 'themâu' hanesyddol sydd wedi llunio'r ardal. Nodir nodweddion hanesyddol allweddol yr ardal felly ynghyd ag argymhellion ar gyfer eu rheoli'n gadarnhaol.

Patrymau aneddiadau hanesyddol; Nefyn, Llyn

Mae'r tudalennau hwn yn rhan o gyfres o ymarferion nodweddiad tirweddau hanesyddol yr ymgymerir ag ef gan Ymddiriedolaethau Archaeoloegol Cymru gyda chymorth grant gan Cadw. Bydd yr astudiaethau hyn yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar yr ardaloedd hynny a nodwyd yn y Gofestr o Ddiddordeb Hanesyddol, er y caiff ei dderbyn bod modd disgrifio tirwedd Cymru gyfan, mewn un ffordd neu'r llall, fel yn hanesyddol. Mae gwybodaeth yn cael ei pharatoi ar ffurf sy'n cydweddu â methodoleg asesu tirweddau a gwneud penderfyniadau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, sef LANDMAP. Bydd ar gael i ystod eang o sefydliadau a chaiff ei fwydo i fentrau amrywiol er mwyn diogelu a rheoli cefn gwlad Cymru, yn bennaf y cynllun agri-amgylcheddol sef, Tir Gofal

Cydnabyddir yn llwyr gan y Gofestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol, a'r ymarferion nodweddu hyn, natur ddeinamig y tirwedd sy'n parhau i esblygu. Hyrwyddant y farn mai nid trwy rwystro newid neu ffosileiddio'r tirwedd y mae diogelu treftadaeth y gorffennol yn y tirwedd, ond yn hytrach drwy lywio'r broses o newid, gan greu tirweddau'r dyfodol heb o anghenraid aberthu tirweddau gorau'r gorffennol.

Richard Avent & Richard Kelly
ar rhan Cadw: Henebion Cofrestredig Hanesyddol Cymru & Cyngor Cefn Gwlad Cymru