Cyhoeddiad Tre'r Ceiri (G2245)

Adroddiad cryno Ebrill 2012 – Mawrth 2013


Ffotograff o gaer Tre'r Ceiri o'r awyr

Cyflwyniad

Mae Tre'r Ceiri yn fryngaer drawiadol 485m o uchder ar ochr fwyaf dwyreiniol tri phegwn Yr Eifl ar benrhyn Llŷn. Amgylchynir y fryngaer gan wal gerrig sych enfawr sy'n sefyll yn agos at ei huchder gwreiddiol o 3.5m mewn llawer o leoedd. Mae wal amddiffynnol allanol bellach, wedi'i chodi o flociau enfawr o gerrig, yn gwarchod ochr ogledd-orllewinol y fryngaer. Mae llwybr cerdded wedi'i amddiffyn yn dda yn pasio trwy'r waliau mewnol ac allanol ac mae'n debygol mai dyma oedd y brif fynedfa. Mae pedair mynedfa lai wedi cael eu hadnabod, a'r hynotaf ohonynt yn llwybr cul a gorchudd drosto trwy'r rhagfur ar ochr ogleddol y safle.

O fewn y rhagfuriau mae olion dros 150 o gytiau cerrig sych. Mae'r rhain i'w gweld mewn sawl grŵp dwys o gwmpas y fryngaer. Tai crynion mawr oedd y cytiau cynharaf. Codwyd llawer o'r cytiau diweddarach o'u cwmpas a'r rheiny'n amrywio'n fawr yn eu ffurf, o gytiau crynion syml i strwythurau hirsgwar ac afreolaidd. Nodir man uchaf Tre'r Ceiri gan garnedd o'r Oes Efydd.

Sefydlwyd prosiect cadwraeth yn 1989 mewn ymateb i bryder am erydu cynyddol i'r gwaith maen sych bregus. Prif bwyntiau'r gwendid oedd dymchweliadau yn y rhagfur a waliau'r cytiau oedd yn cyfaddawdu sefydlogrwydd y gwaith maen oedd yn dal i sefyll. Penderfynwyd cadarnhau'r gwaith maen trwy ailgodi'r dymchweliadau gan ddefnyddio'r dulliau adeiladu gwreiddiol a nodi'r gwaith maen newydd gyda thyllau drilio bychain. Cafwyd prosiect deg tymor o waith a chyhoeddwyd adroddiad manwl ar ddiwedd pob tymor. Cofnodwyd pob gwaith maen cyn, yn ystod ac ar ôl cadwraeth gan ddefnyddio lens symudol ar gamerau 35mm SLR. Roedd yr adroddiadau'n cynnwys yr holl ffotograffau perthnasol gyda chofnodion llun a disgrifiadau ysgrifenedig.

Codwyd tri bwrdd gwybodaeth newydd ar y safle ar ddiwedd y prosiect ac uwchraddiwyd y llwybrau sy'n arwain at y fryngaer. Cynhyrchwyd cynllun rheoli tymor hir hefyd, yn argymell ymweliadau monitro rheolaidd i atal unrhyw erydiad neu ddifrod bwriadol cyn bod dirywiad sylweddol i sadrwydd y cofadail.

Ni olygai'r gwaith atgyfnerthu unrhyw gloddio ffurfiol ac un o'i brif amcanion oedd osgoi tarfu ar waddodion ar y safle. Fodd bynnag, datgelodd symud llawer o rwbel nifer o nodweddion oedd heb eu darganfod cyn hynny. O ddiddordeb arbennig oedd crochenwaith Rhufeinig mewn elfen a ailgynlluniwyd yn y brif fynedfa oedd yn dangos bod y safle wedi'i feddiannu ac yn cael ei adnewyddu yn ystod y goresgyniad Rhufeinig. Darganfuwyd llawer o wybodaeth newydd am strwythur a chyfnodau grwpiau cytiau o fewn y fryngaer. Cyhoeddwyd crynodebau o rywfaint o'r gwaith yn Archaeology in Wales ond ni chyhoeddwyd adroddiad manwl ar ddiwedd y prosiect.

Cyhoeddwyd pob un o'r deg adroddiad blynyddol pan oedd cofnodi a chopïo digidol yn eu babandod. Mae pob adroddiad yn cynnwys dwy gyfrol, y naill i'r testun a chynlluniau a'r llall yn cynnwys hyd at 441 plât gyda phrintiau sgleiniog wedi'u gludo i ddarnau unigol o bapur. Cynhyrchwyd llungopïau a'u diogelu gyda CAH a Cadw. Fodd bynnag, safon wael sydd gan y rhain yn erbyn safonau modern. Archwiliwyd y meistrgopïau heb eu rhwymo yn ddiweddar a gwelwyd eu bod yn dirywio. Ni chyhoeddwyd y rhan fwyaf o'r wybodaeth o'r prosiect cadwraeth ac felly nid yw ar gael i ymchwilwyr na'r cyhoedd yn gyffredinol.

 


Y brif fynedfa drwy'r rhagfuriau

Gwaith a gwblhawyd yn 2012-13

Cynhwysir bron yr holl wybodaeth o'r prosiect yn y 10 adroddiad blynyddol manwl. Mae'r rhain yn cynnwys 2325 ffotograff a 10 cyfrol o destun a chynlluniau. Sganiwyd y rhain yn ddigidol mewn partneriaeth â Phrosiect Gweledol Gwynedd. Arolygwyd y gwaith gan Sian James, Ymchwilydd Cyfrwng Digidol a Throsglwyddo Gwybodaeth Archaeoleg Gyhoeddus yn yr Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg.

Ymgymerwyd â theithiau tywys ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol ac ysgolion lleol a chynhyrchwyd taflen gerdded hunan dywys yn ogystal. Cynhaliwyd diwrnod o weithgareddau archaeolegol yn canolbwyntio ar Dre'r Ceiri yn ystod Gŵyl Archaeoleg Prydain yng Nghanolfan Iaith Gymraeg a chynadleddau Nant Gwrtheyrn gerllaw. Hybwyd y safle a'r teithiau tywys hefyd yn ystod Eisteddfod yr Urdd.

Cyfunwyd y wybodaeth yn codi o'r prosiect cadwraeth 10 mlynedd i bapur addas i'w gyhoeddi mewn cyhoeddiad wedi'i adolygu gan gyfoedion. Fe'i cyflwynir i'r Archaeological Journal sydd wedi cyhoeddi papurau o bwys ar Dre'r Ceiri cyn hyn. Cynhyrchwyd cynllun manwl newydd o'r safle. Gyda hyn roedd angen gwaith arolygu ychwanegol ar y safle er mwyn darparu cynllun sylfaenol ar gyfer y lluniau safle manwl a gynhyrchwyd yn ystod y prosiect cadwraeth. Crynhowyd gwybodaeth y 10 cyfrol i gynhyrchu trosolwg o'r gwaith a gyflawnwyd a thanlinellu meddwl newydd am gyfnodau a dyddio'r cofadail. Wedi trafod gyda golygydd y cyfnodolyn mae hyn yn gofyn am ddiwygiadau terfynol a'i gyflwyno'n ffurfiol erbyn diwedd 2013.

Archwiliwyd y safle'n fanwl a'i asesu am ei sadrwydd. Nodwyd amrywiol faterion parthed erydu, mynediad, difrod, darparu gwybodaeth i ymwelwyr a chyflwr y cofadail. Defnyddiwyd y wybodaeth hon i gynhyrchu cynllun rheoli newydd. Mae hyn yn cynnwys map gyda nodiadau yn dangos lle gwelwyd problemau. Mae problemau hefyd ar hyn o bryd gyda mynedfa ac arwyddion. Mae gan Gyngor Gwynedd gytundeb rheoli gyda pherchennog y tir. Gweithiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd cyn hyn gyda'r Cyngor i ddarparu byrddau dehongli a rheolaeth llwybr. Bydd y cynllun rheoli yn rhoi gwybod am waith pellach gan y Cyngor fydd yn cynnwys mesurau ar gyfer arwyddo gwell ynghyd ag adnewyddu'r byrddau dehongli presennol neu godi rhai newydd mewn cydweithrediad o bosibl ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.

 


Rhodfa'r mur parapet

 


Cynllun o Tre'r Ceiri gyda'r cyfnod cynharaf yn ymddangos yn gysgodol

 

 

 

Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>