G1632 Safle Rhufeinig Tai Cochion , Cyhoeddiad

Adroddiad cryno Ebrill 2012 – Mawrth 2013

 


Jar storio mewn situ, a dorrwyd yn ystod dinistr yr adeilad

 

Cyflawnwyd dau gloddiad asesu, yn 2010 a 2011. Yn y ddau achos archwiliwyd adeiladau hirsgwar a'u cyffiniau. Darganfuwyd mai fframiau coed oedd i'r adeiladau gyda phaneli plethwaith a dwb wedi'u gosod ar sylfeini cerrig. Roedd yr ail adeilad a gloddiwyd yn 2011 yn edrych dros y Fenai ac o statws cymharol uchel. Roedd yn hirsgwar gyda dau ben gwyredig, yn mesur 27m x 9 ac wedi'i amgylchynu gan feranda neu goridor o bosibl. Yng nghanol y wal ddwyreiniol yn wynebu'r Fenai roedd mynedfa 3m o led gyda chyntedd â gorchudd.

Canfuwyd bod ffosydd y safle'n gymharol fach, a byddent wedi gweithredu fel ffiniau iddo ac fel draeniau heb fod o natur amddiffynnol. Rhedai ffordd saith metr o led wedi'i metelu o'r lan trwy ganol yr anheddiad.

Cyflawnwyd y rhan fwyaf o'r gwaith wedi'r cloddio yn 2012-13. Roedd hynny'n cynnwys prosesu a chatalogio dros 2500 o ganfyddiadau o gloddiad 2011, prosesu samplau amgylcheddol, dadansoddi cyd-destun a gwybodaeth stratigraffig, cynhyrchu cynlluniau safle ac adroddiadau arbenigol.

 

Derbyniwyd yr adroddiadau canlynol:

Crochenwaith gan Peter Webster

Olion diwydiannol gan Tim Young

Amgylcheddol gan James Rackham ac Astrid Casteldine

Esgyrn anifeiliaid gan Nora Bermingham

Gwydr gan Hillary Cool

Gwaith metal gan Evan Chapman (interim)

Darnau arian gan Edward Beseley (interim)

 

Diogelwyd a chynhwyswyd rhai canfyddiadau yn arddangosfa lwyddiannus ‘Dathlu Archaeoleg Môn' yn Oriel Ynys Môn. Archwiliai honno brosesau ymchwilio archaeolegol ac archaeoleg Ynys Môn. Defnyddiwyd y gwaith yn Nhai Cochion fel un o brif enghreifftiau cloddio ym Môn.

Ychwanegodd y rhaglen wedi'r cloddio wybodaeth arwyddocaol at ddehongliad gwreiddiol interim y safle. Awgryma dadansoddiad y crochenwaith bod gan yr adeilad a gloddiwyd swyddogaethau masnach ac fel cartref. Dangosodd tystiolaeth dyddio o'r canfyddiadau bod bron pob cyd-destun cloddedig yn cynnwys deunydd trydedd ganrif hwyr i'r bedwaredd ganrif ynghyd â rhywfaint o ddeunydd gweddilliol o'r ail ganrif ac yn gynnar yn y drydedd ganrif. Roedd yr adrannau hwyraf yn perthyn yn glir i'r bedwaredd ganrif ac ymddengys yn debygol bod prif breswyliad y tŷ wedi dod i ben yn y drydedd, er mae'n ymddangos bod yr adrannau cynharach wedi cael eu haflonyddu a'u sathru'n drwyadl yn ystod ail ddefnydd yr adeilad.

Ni chwblhawyd pedwar o'r adroddiadau arbenigol tan ddiwedd chwarter cyntaf 2012-13. Paratowyd adroddiad rhagarweiniol i'w gyhoeddi yn Archaeologia Cambrensis ond methwyd â'i gwblhau tan i'r adroddiadau arbenigol gael eu derbyn. Ar hyn o bryd mae'r adroddiadau arbenigol yn cael eu hintegreiddio i'r adroddiad a bwriedir ei gyflwyno yn Rhagfyr 2013.

 


Darn arian Constantius II (OC 337-347), y diweddaraf o'r cloddio

 


Gwaelod dysgl Terra Sigillata gyda stamp yn darllen LVPERCI (140-160 OC)

 


Un o'r llawer o ardaloedd crefft neu ardaloedd gweithio yn y cartref tu fewn yr adeilad;
aelwyd bach wedi ei amgylchu gan dyllau pyst

 

 

Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>