Mannau darganfod ac Archaeoleg(G2240)

Adroddiad cryno -Ebrill 2012 – Mawrth 2013


Canlyniadau'r arolwg geoffisegol yn Rhuddgaer

Y symbyliad i'r prosiect hwn oedd darganfod y safle newydd pwysig yn Nhai Cochion. Yma cafwyd adroddiadau cyson i Swyddog Hynafiaethau Cludadwy yr Ymddiriedolaeth o ddarganfyddiadau gan olrheinwyr metel mewn fferm ger Brynsiencyn, gan arwain at raglen arolwg geoffisegol a chloddiadau prawf. Datgelodd y gwaith hwn anheddiad sifil Rhufeinig helaeth a oedd yn anhysbys tan hynny; safle sydd hyd yma yn unigryw yng Ngogledd orllewin Cymru.

Tynnwyd sylw'r Ymddiriedolaeth at safleoedd eraill gan olrheinwyr metel ac eraill a ddatgelodd ganfyddiadau arwyddocaol o ardaloedd lle nad oes gwybodaeth ar hyn o bryd am olion archaeolegol. Yn ychwanegol, mae mannau darganfod niferus wedi'u rhestru'n barod ar Gofnod Amgylchedd Hanesyddol sy'n sefyll allan yn arbennig fel rhai sy'n haeddu archwiliad pellach. Mae'n debygol bod rhai yn eu plith yn safloedd archaeolegol pwysig sy'n aros i gael eu darganfod.

Fodd bynnag, hepgorir y mannau darganfod a'r safleoedd pwysig posibl a gynrychiolant o'r math arferol o warchodaeth, oherwydd diffyg gwybodaeth am gyd-destun, yn arbennig felly mewn perthynas â chynlluniau amgylcheddol amaethyddol fel Glastir.

Dewiswyd de orllewin Môn yn ardal astudio. Archwiliwyd y cofnodion safle a fodolai o amrywiol ffynonellau er mwyn creu rhestr o'r holl fannau darganfod yn yr ardal astudio. Dadansoddwyd y rhain am ddarganfyddiadau lle cadarnhawyd math, dyddiad a lleoliad. Yna fe'u dosbarthwyd i gategoriau fel darganfyddiadau unigol ar hap, gwasgariadau dwys, gwasgariadau ar chwâl ac yn y blaen. Dewiswyd pymtheg safle am asesiad cyflym gan ddefnyddio ddulliau pendesg, cerdded maes, olrhain metel ac arolwg geoffisegol.

Esblygodd dull yr arolwg olrhain metel yn ystod y prosiect, gan arwain yn y pen draw at wahanu gwrthrychau heb fod yn haearn, a chofnodi pob man darganfod gyda GPS mewn llaw.

 

Crynodeb canlyniadau

O'r pymtheg ardal a arolygwyd dim ond un (Bodlawen) gynhyrchodd ddim archaeoleg o gwbl. Mewn dwy ardal cynhyrchwyd safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol posibl; cynhyrchodd naw ardal safleoedd o bwysigrwydd rhanbarthol; cynhyrchodd dwy ardal safleoedd llai pwysig; cynhyrchodd un ardal safle o swyddogaeth a dyddiad anhysbys.

Arweiniodd y prosiect at adnabod nifer arwyddocaol o safleoedd newydd, er mewn rhai achosion nid oedd y safleoedd yn perthyn i'r darganfyddiadau a symbylodd y gwaith . Mae'n bosibl bod aneddiadau dwys ac ecsbloetio'r dirwedd yn y rhan hon o Fôn dros gyfnod hir yn golygu bod cryn bosibilrwydd am archaeoleg sylweddol wedi'i gladdu o fewn canran uchel o'r dirwedd.

Cafwyd y canlyniadau gorau ar safleoedd a gynhyrchodd ddarganfyddiadau lluosog. Gall hyn fod oherwydd i'r darganfyddiadau unigol a archwiliwyd gael eu colli ar hap ac felly heb unrhyw gysylltiad ag olion archaeolegol yn yr ardal . Hefyd mae'n bosibl gan mai darganfyddiadau unigol ydynt, sef eu bod yn gynnyrch un nodwedd neu bydew. Mae terfyn ar ddadansoddiad geoffiseg ac felly mae nodweddion llai na rhyw faint, efallai unrhyw beth llai na 2m mewn diamedr, yn anodd i'w canfod yn enwedig yn erbyn unrhyw sŵn cefndir o'r ddaeareg neu'r pridd. Mae gofyn i'r nodweddion fod yn weddol fawr gyda morffoleg gyfarwydd i'w adnabod mewn plot geoffiseg.

Mae argymhellion am waith pellach yn cynnwys arolwg magnetometer mewn ardaloedd lle nodwyd safleoedd newydd, er mwyn bod yn siwr o faint llawn yr olion archaeolegol. Dylai palu ffosydd cyfyngedig gydfynd â'r arolwg a natur yr archaeoleg yn y pridd.

Adroddiad gan: Roland Flook


Plot o ganlyniadau geoffisegol yn dangos waliau a strwythurau Rhuddgaer

 

Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>