Gwerthuso Maes Cynigion Rhestru (G2246)

Adroddiad cryno Ebrill 2012 – Mawrth 2013


Y safle ym Mhen Bryn yr Eglwys cyn cloddio

Cyflwyniad

Ar ran Cadw mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi ymgymryd â rhychwant eang o asesiadau gwella rhestru, yn ymwneud â chyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol. Mae pob asesiad wedi cynnwys archwilio pob cofadail perthnasol, ac adnabod safloedd o bwysigrwydd cenedlaethol posibl a gafodd eu cymeradwyo i'w rhestru. Fodd bynnag, yn anochel mae nifer o safleoedd y gellid eu hadnabod fel cloddwaith neu trwy ffotograffau o'r awyr, nad oes modd eu hasesu heb waith pellach. Bwriad y prosiect yw asesu ymhellach arwyddocad safleoedd penodol i sicrhau eu bod yn cyfateb i ganllawiau rhestru.

Dewiswyd pum safle o restr o safleoedd a adnabuwyd yn ystod asesiadau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanoloesol. Aseswyd pob safle ymhellach yn defnyddio technegau priodol.

 

Pen Bryn Yr Eglwys, cloddiad prawf


Y safle ym Mhen Bryn yr Eglwys yn ystod y cloddiad

Saif llwyfan sgwar yn fras gyda mesuriadau o 7m x 9m, a'i ddiffinio gan glawdd isel, ar bwynt uchaf Trwyn Carmel. Fe'i cofnodwyd yn draddodiadol fel safle capel ond mae ei faint bychan, aliniad a lleoliad anghysbell yn awgrymu fel arall . Mae traddodiad lleol yn cofnodi hefyd bod cerrig wedi'u cymryd o'r safle i godi adain newydd i'r eglwys leol. Yn sgil cloddio ar strwythur tebyg ar Fynydd Caergybi, awgrymodd Peter Crew mai Tŵr gwylio Rhufeinig ydyw (Crew Arch in Wales 1981). Gallai hwn fod yn un o bâr yn edrych dros y fynedfa i borth y llynges yng Nghaergybi neu'n rhan o resaid o dyrau gwylio yn estyn ar hyd yr arfordir. Codwyd pridd oddi ar bedrant o'r safle gan ddatgelu cornel clawdd gwasgaredig o garreg a phridd. Torrwyd darn siap L trwy hwn a chloddiwyd y gornel ymhellach. Datgelodd clirio deunydd y clawdd ffos sylfaen fas ar un ochr a sylfeini rwbel wedi'i gosod yn syth ar y creigwely ar y llall. Codwyd y gornel hefyd yn syth ar y creigwely. Cloddiwyd tri darn o grochenwaith, Rhufeinig bron yn sicr, o weddillion y pridd. Cloddiwyd darnau bychain o fortar o du mewn yr adeilad ond ni chafodd carreg fortar ei hadnabod yn y rwbel. Mae'n ymddangos y gallai'r traddodiad o gario cerrig o'r safle fod yn gywir; ymddengys bod pob carreg ddefnyddiol wedi cael ei dwyn o'r adeilad hyd at y sylfeini. Mae cyflwr gwael y safle yn ei gwneud yn anodd dod i unrhyw gasgliadau pendant am ei ddefnydd ond mae'r crochenwaith yn awgrymu dyddiad Rhufeinig a byddai'r lleoliad ar ben Trwyn Carmel yn ddewis amlwg ar gyfer tŵr gwylio.

 

Capel Euddog (Safle) Dulas, arolwg geoffisegol

Tybir bod cloddweithiau crwn yn fras mewn cae bychan i'r de o fferm Capel Euddog yn nodi safle hen gapel. Arolygwyd y cae sy'n cynnwys y cloddwaith, tua 0.75 ha, yn ddadansoddol fanwl.

Datgelodd yr arolwg gyfres o anghysonderau'n gorgyffwrdd, yn cynrychioli mae'n bur debyg sawl cyfnod o weithgaredd. O ddiddordeb arbennig mae anomaledd hirsgwar negyddol yn mesur 11m x 5m wedi'i alinio ychydig raddau oddi ar ddwyrain gorllewin. Fel arfer mae anomaleddau negyddol fel arfer yn cyfeirio at lwythau sylweddol o gerrig felly mae'n debygol bod hyn yn awgrymu presenoldeb sylfeini cerrig. Gallai'r pen gorllewinol fod yn gromfannol ond nid yw'r canlyniadau'n glir yn yr ardal hon. Mae'r nodwedd yn weladwy fel cloddwaith isel yn y cae. Gellir hefyd gweld cloddwaith o siap cylch yn fras ond ni chynhyrchodd hwnnw anomaledd geoffisegol. Gallai anomaleddau llinellol awgrymu lloc diweddarach. Mae'r arolwg yn ychwanegu pwysau sylweddol at y ddamcaniaeth mai safle capel cynnar yw hwn.

 

Capel (safle) Llanddygfael

Nodwyd safle Capel Dygwel gan RCAHMW ym mhen gogleddol cae. Mae'n ymddangos bod gwyriad yn ffin y cae yn diffinio un ymyl i'r fynwent. Arolygwyd y cae sy'n cynnwys y cloddwaith yn fanwl iawn. Prif nodwedd yr arolwg oedd creigwely magnetig iawn ac ni ddarganfuwyd unrhyw anomaleddau archaeolegol.

 

Sustem Gaeau Hwylfa'r Ceirw


Cynllun o'r nodweddion yn Hwylfa Ceirw

Mae sustem fawr amlgyfnod o gaeau ar Ben y Gogarth sy'n cynnwys grŵp cytiau posibl i'w gweld yn glir mewn ffotograffau o'r awyr o'r 1950au. Cafodd yr ardal ei phori'n drwm yr adeg honno a'r gwair yn fyr iawn. Erbyn hyn mae rhywfaint o ordwf ac mae'n anoddach ei gweld. Cofnodwyd y safle ym mhrosiect Grwpiau Cytiau a Phrosiect Safleoedd Cynhanesyddol a Rhufeinig fel un y dylid ei asesu'n gywir. Cynhyrchwyd cynllun safle a thestun dehongli o'r arolwg maes ac o drawsysgrifiad nifer o ffotograffau o'r awyr.

Nododd yr arolwg nifer fawr o nodweddion. Y rhai mwyaf arwyddocaol yw'r sustemau caeau eang sy'n tarddu o'r cyfnod canoloesol ac ynghlwm mwy na thebyg â threflan Cyngreawdr. Mae dau gwt hir a sawl is-gyfnod o gribynnau amaethu. Gallai rhai o'r cynharaf fod yn gribyn a chwys traddodiadol ond mae'n ymddangos bod defnydd cynyddol o dir mwy ymylol. Mae'r caeau cynharaf ar dir cymharol wastad tra bo'r caeau diweddarach yn llai ac angen mwy o derasu. Mae rhai terasau amaethu ar dir serth iawn ac wedi gofyn am ymdrech fawr am elw cymharol fach. Byddai'r llociau llai a therasau wedi bod yn rhy fach neu'n rhy serth i aredig, ac fe'u palwyd bron i sicrwydd â rhaw.

Ni roddwyd dyddiad i'r rhes gerrig ddwbl sy'n rhoi enw'r ardal (Hwylfa'r Ceirw) ac ni chyflwynwyd dehongliad cwbl argyhoeddiadol. Mae'n amlwg ei fod yn ddigon cynnar i ymsefydlu mewn llên gwerin lleol a gallai fod yn gynhanesyddol, er bod ei debygrwydd i enghreifftiau cyfarwydd o aliniadau cerrig yn Dartmoor a mannau eraill braidd yn denau. Seilir esboniadau eraill ac yn wir ei enw ar swyddogaeth fel llwybr wedi'i nodi, sy'n arwain at lwybr naturiol i lawr i lefelau is Pen y Gogarth a'r arfordir. Mae'i arddull adeiladu'n debyg i waliau orthostatig i'r de sy'n ganoloesol neu ddiweddarach.

Tarfwyd rhywfaint ar safle prosesu mwyn ond mae'n dal i gynrychioli ardal fawr o weithgaredd er yn anodd ei dehongli. Mae amrywiaeth fawr o nodweddion, gan gynnwys nodwedd hirsgwar rheolaidd yn y gorllewin (36629), ac amrywiaeth o gloddiau llinellol ac is-gylchol a phantiau mewn mannau eraill. Awgryma gwaith blaenorol is-gyfnodau niferus o'r Oes Efydd tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

Llociau Consentrig Ŵyffurf, Cefn Deuddwr


Golygfa o'r gwrthgloddiau yng Nghefn Deuddwr

Mae'r safle'n cynnwys tri chlawdd consentrig 'gellygffurf' gyda diametr cyfan o 65m. Mae'n amlwg ei fod yn hen ond nid yw wedi'i ddeall. Cynhyrchwyd cynlluniau sylfaenol wedi'u symleiddio gan CBHC a'r Arolwg Ordnans. Yn ôl yr Arolwg Ordnans mae'r cloddwaith yn draddodiadol yn safle capel awyr agored. Fe'i cofnodir gan y Comisiwn Brenhinol fel cloddwaith heb ei ddosbarthu a diwedda'r disgrifiad yn Arch Camb 1924 gyda'r datganiad enigmatig “Beth allai'r cloddwaith hwn fod..”.

Roedd gordyfiant trwm ar y safle gyda rhedyn, mieri a drain du 1.5m o uchder. Cliriwyd hyn gyda thorrwr brwsh a llawlif. Arolygwyd yr ardal wedyn gan ddefnyddio sustem GPS Trimble manylder uchel a thorrwyd ffos 1m o led â llaw trwy dri chlawdd ar ochr dde-orllewinol y safle.

Cynhyrchwyd cynllun newydd. Mae'r safle'n cynnwys tri chlawdd consentrig. Mae pob un yn fras gellygffurf o ran cynllun, bron yn wastad a thua 1.3m o led. Mae'r un allanol yn mesur 11m x 8m (o ymyl gwaelod y clawdd) er bod hyn wedi'i fyrhau i 1 i 1.5m ar ochr ogledd-ddwyreiniol y rhodfa. Mae gan yr un fewnol garreg fawr yn mesur tua 1.2m x 1.0m wedi'i gosod i mewn i ac yn sefyll uwchben y clawdd. Mae gan y cloddiau ar ochr dde-ddwyreiniol y safle, hynny yw pen pigfain y gellygffurf, bwynt isel a'r ffos rhyngddynt yn lletach. Gellid dehongli hyn fel mynedfa neu ddraen o bosibl.

Cloddiwyd ffos 1m o led trwy'r cloddwaith ar ochr dde-orllewinol y safle. Canfuwyd eu bod yn gloddiau pridd a cherrig syml. Dyddiai'r unig ddarganfyddiadau o'r safle o'n hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg/yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.

Mae'n safle hynod; nid oes lleoedd tebyg amlwg yng Ngogledd Cymru. Mae'n ymddangos i fod o ddiffiniad rhy glir i fod yn gynhanesyddol; byddai'r ffosydd wedi llenwi gyda silt i sicrwydd bron pe byddai'r safle'n hynafol iawn. Byddai safle pregethu awyr agored yn ôl y traddodiad a gofnodir gan yr Arolwg Ordnans yn gwneud synnwyr yn forffolegol. Gellid gweld y garreg fawr fel canolbwynt y safle gyda'r cloddiau uchaf wedi'u lledu o'i blaen. Gallai hyn ddyddio o un o ddiwygiadau'r Methodistiaid yn 1750, 1859 neu 1904-5. Fodd bynnag, nid oes dim gwybodaeth leol am y safle ac mae rhai amheuon am ddibynadwyedd tystiolaeth ‘draddodiadol' a gofnodwyd gan yr Arolwg Ordnans. Ni chanfuwyd cofnodion am y safle yn Archifau Gwynedd ac er ymgynghori â nifer o haneswyr lleol amlwg ni ddaeth unrhyw dystiolaeth ddogfennol i'r golwg.

 

 

 


Cynllun o'r gwrthgloddiau yng Nghefn Deuddwr

 

 

 

Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>