Anheddiad Rhufeinig Tai Cochion, Ynys Môn (G1632)

Adroddiad cryno Ebrill 2011 – Mawrth 2012

Cefndir

Cofnodwyd darganfyddiadau o waith metel a chrochenwaith Rhufeinig mewn caeau o gwmpas Tai Cochion, sy'n agos at Afon Menai ar lannau Môn, yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mewn cofnodion hynafiaethol. Tybiwyd fod y rhain yn nodi gweddillion safle Brythonig-Rufeinig o statws uchel. Yn dilyn hynny bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn archwilio'r ardal dros dri chyfnod o arolwg geoffisegol gyda chymorth grant gan Cadw yn bennaf. Roedd y cyntaf yn rhan o'r prosiect safleoedd milwrol holl-Gymreig-Rufeinig (Hopewell 2009, adroddiad GAT 778); roedd yr ail yn rhan o brosiect AHNE Ynys Môn (G2076) a'r trydydd, a ariannwyd gan grant wrth gefn gan Cadw, eto'n rhan o'r prosiect safleoedd milwrol Rhufeinig (G1632).

Gwnaed arolwg o dros 20 hectar, a darganfuwyd fod y rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys elfennau o anheddiad sylweddol. Roedd yr anheddiad yn cynnwys ffordd 0.6km o hyd gyda sawl llwybr yn fforchio, gan ddirwyn o dŷ Tai Cochion at lannau Afon Menai. Hyd ymyl y ffyrdd roedd cyfres o lociau bach, yn mesur tua 20m x 40m yn nodweddiadol. Roedd nifer o'r llociau'n cynnwys anomaleddau hirsgwar, eithaf eglur a ddehonglwyd fel adeiladau, a oedd yn mesur tua 16m x 8m yn nodweddiadol. Canfuwyd 25 o adeiladau posibl drwy gyfrwng yr arolwg. Ymddangosai fod y rhan fwyaf yn hirsgwar, gydag israniadau mewnol o bosibl. Ymddangosai fod ychydig ohonynt yn fwy cymhleth gydag estyniadau neu ystafelloedd ychwanegol. Roedd rhannau gorllewinol a deheuol yr anheddiad yn eithaf rheolaidd gydag un adeilad ym mhob llain. Roedd y rhannau gogleddol a dwyreiniol yn llai rheolaidd ac yn anos i'w dehongli. Gallai hyn fod yn arwydd o sawl cyfnod neu'n fan gweithgaredd gwahanol. Gallai gwasgariadau o anomaleddau thermoweddill posibl ledled yr anheddiad fod yn arwydd o aelwydydd, poptai neu ffwrneisi. Ymddangosai fod y lleiniau wedi eu diffinio gan ffosydd bychain ond nid oedd unrhyw arwyddion amlwg o amddiffynfeydd sylweddol o gwmpas yr anheddiad. Darganfuwyd caeau o sawl cyfnod i'r gogledd o'r anheddiad. Gellid nodi rhai yn ffiniau a ddangoswyd ar fap stad o'r 18fed ganrif ond gallai eraill fod yn gysylltiedig â'r anheddiad. Daethpwyd o hyd i gasgliad, ar yr arwyneb, yn cynnwys 207 o deilchion o Grochenwaith Rhufeinig yn y cae i'r de o Dai Cochion. Archwiliodd Peter Webster y rhain a chanfuwyd eu bod yn dyddio rhwng c. OC 100 i c. OC 300 gan gynnwys cyfran sylweddol o ddeunydd statws uchel o'r 2ail ganrif.

Roedd canlyniadau'r arolwg geoffisegol a'r darganfyddiadau'n awgrymu'n gryf fod hwn yn safle anheddiad Rhufeinig o gryn bwysigrwydd, yn hytrach nag anheddiad o dai crwn Brythonig-Rufeinig a awgrymwyd gan astudiaethau cynharach. Mae'r cynllun, gyda ffordd ganolog a lleiniau'n cynnwys adeiladau hirsgwar hyd ei hymyl, yn debyg i bentrefi a threfi bach Rhufeinig fel Sedgefield ger Durham (gwybodaeth gan Dr D. Mason yn Burnham 2007). Mae lleoliad y safle, gyferbyn â chaer Rufeinig Segontium ar draws y Fenai, yn awgrymu fod yr anheddiad yn nodi'r man lle byddid yn croesi'r Fenai. Mae'n debygol y byddai anheddiad wedi datblygu o gwmpas y safle glanio ac y byddai wedi gweithredu fel man masnachu gyda thrigolion Ynys Môn. Dyma'r anheddiad cyntaf o'r math hwn a ddarganfuwyd yn y rhanbarth y tybiwyd a gafodd ei filwreiddio gan y Rhufeiniaid yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru a Lloegr.

Cynhaliwyd cloddiad asesu mewn man yn mesur 40m wrth 20m yn ystod haf 2010. Cadarnhaodd hyn y dadansoddiad o anomaleddau geoffisegol: roedd ffordd wyth medr ar draws, nodweddiadol o ddull y Rhufeiniaid o'i hadeiladu, yn croesi cornel de-ddwyreiniol y safle. I'r gorllewin o hwn roedd adeilad hirsgwar 14m x 5m , gyda seiliau carreg mae'n debyg ac aradeiledd o goed, plethwaith a dwb. Roedd hwn wedi ei losgi i'r llawr ac ymddangosai fod nifer sylweddol o ddeunyddiau adeiladu wedi eu dwyn oddi yno. Darganfuwyd fod ffosydd y llain yn gymharol fychan a'u pwrpas fyddai nodi ffiniau a draeniau ac i bob golwg nid oeddent yn amddiffynnol yn eu hanfod. Gwahanwyd yr adeilad oddi wrth y ffordd gan iard fetel. Roedd y man i'r gorllewin o'r adeilad yn cynnwys pydewau, darnau o ddeunydd wedi'i losgi ac ysgubor â chwe phostyn. Adferwyd bron i 1000 o deilchion crochenwaith, yn dyddio o ddechrau'r ail ganrif hyd at ganol y bedwaredd.

Cynhaliwyd ail gloddiad ehangach yn ystod haf 2011. Penderfynwyd targedu un adeilad mawr yn agos at Afon Menai yn ogystal â chyfres o anomaleddau geoffisegol a ddehonglwyd dros dro fel nodweddion diwydiannol. Cynhaliwyd arolwg 60m x 60m cydraniad uchel (bwlch samplau 50cm x 25cm ) gyda gradiomedr 'fluxgate' yn y lle cyntaf fu'n fodd i leoli'r ffosydd yn gywir dros y nodweddion. Cynhaliwyd y cloddiad dros gyfnod o 7 wythnos gan ddechrau ar Fehefin 27 2011. Goruchwyliwyd y cloddiad gan David Hopewell a George Smith, y ddau yn archeolegwyr hŷn yn GAT ac fe'i staffiwyd gan dîm o wirfoddolwyr oedd yn cynnwys nifer o archeolegwyr profiadol. Bu tîm maes GAT hefyd yn arwain ymweliadau gan 10 o ysgolion lleol. Cynhaliwyd diwrnod agored i gyd-daro â Gŵyl Archaeoleg Prydain gan ddenu dros 500 o ymwelwyr. Cynhaliwyd cyflwyniad hefyd i Daith Haf Flynyddol Cymdeithas Archaeoleg Rhufain.

Cloddiwyd dwy ffos :

Archwiliodd ffos un, yn mesur 30m x 15m, anomaledd geoffisegol a ddehonglwyd fel adeilad mawr. Datgelodd y cloddiad adeilad hirsgwar gyda therfynau bwa yn mesur 27m x 9m. Roedd gweddillion sylfeini carreg yn diffinio llinellau'r brif wal ac roedd symiau sylweddol o glai a effeithiwyd gan wres yn nodi fod ganddo aradeiledd o goed, plethwaith a dwb. Amgylchynwyd yr adeilad gan feranda neu goridor o bosibl. Gosodwyd mynedfa sylweddol 3m o led gyda phorth tan orchudd yn ganolog yn y mur dwyreiniol yn wynebu Afon Menai. Rhannwyd yr adeilad yn dair prif ystafell. Roedd ystafell fawr, wedi'i chanoli ar y brif fynedfa, yn cynnwys tystiolaeth o weithgaredd domestig a llunio crefftwaith efallai. Mae'r dadansoddiad cychwynnol yn awgrymu mai swyddogaethau domestig yn bennaf oedd i'r ystafelloedd llai ym mhob pen o'r adeilad. Nodwyd dau gyfnod. Yn y cynharaf roedd llawr clai a chobls bach suddedig a chafodd ei ddifrodi'n ddifrifol gan dân. Gosodwyd llawr fflagenni dros weddillion y cyfnod cyntaf ac ail-ddefnyddiwyd yr adeilad yn rhannol o leiaf.

Cynhwysai ffos dau gyfres o nodweddion toredig. Cafnau afreolaidd oedd y rhan fwyaf a gallent fod wedi bod yn byllau benthyg ar gyfer gwneud plethwaith a dwb. Mae'n ymddangos fod pydew wedi'i leinio â cherrig wedi cael ei ddefnyddio fel sychwr grawn .

Adferwyd dros 2500 o ddarganfyddiadau o'r cloddiad gan gynnwys crochenwaith, darnau arian, gemwaith a gosodiadau dodrefn metel.

Cloddiwyd pyllau bach i brofi'r pridd ar draws y lleoliad i gyd gan gadarnhau fod haenlinau archeolegol wedi goroesi ledled yr anheddiad i gyd gan gynnwys y mannau a amaethwyd yn fwy trylwyr yn agos at Dai Cochion

 

Arolwg geoffisegol

Cynhaliwyd arolwg geoffisegol ar hectar pellach ym mhen gorllewinol y safle sy'n arddangos manylion anheddiad amdiffynedig cynhanesyddol mawr. Mae'r anheddiad yn is-gylchog ac yn mesur 130m wrth 100m ac fe'i hamddiffynwyd gan glawdd dwbl a ffosydd. Gallai cyfres o anomaleddau crwn ar y tu mewn fod yn arwydd o dai crwn o sawl cyfnod. Mae llwybr tebygol y ffordd Rufeinig yn dirwyn yn union i'r de o'r ffosydd ac mae'n ymddangos fod y fynedfa'n agor allan i'r ffordd. Gallai hyn naill ai nodi fod y Rhufeiniaid wedi mabwysiadu llwybr oedd eisoes yn bodoli yn yr Oes Haearn neu fod yr anheddiad yn perthyn i'r cyfnod Brythonig-Rufeinig a'i fod o'r un cyfnod â'r ffordd.

 

Adroddiad gan: David Hopewell

 

 

Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>