Cofrestru Meysydd Awyr Milwrol a Gwella'r Rhestri (G2180a)

Adroddiad cryno Ebrill 2011 – Mawrth 2012

Cynlluniwyd y prosiect hwn er mwyn nodi ac archwilio'r naw maes awyr milwrol yng Ngwynedd sy'n dyddio o'r 20fed ganrif a thri safle cysylltiol, asesu eu cyflwr a, lle bo'n briodol, argymell safleoedd i'w cofrestru a'u rhestru. Cyfyngwyd y prosiect i safleoedd oddi mewn i derfynau ardaloedd technegol safleoedd meysydd awyr. Defnyddiodd y prosiect gyfuniad o ffynonellau archif, cartograffeg, dogfennol a ffotograffig er mwyn nodi statws posibl y safleoedd, a gadarnhawyd ymhellach gan waith maes wedi'i dargedu.

Ymledodd gorsafoedd hedfan neu erodromau'r Rhyfel Byd Cyntaf ledled y Deyrnas Unedig, ond cliriwyd y rhain yn aml a'u haddasu i'w defnyddio i ddibenion newydd. Enghraifft dda o hyn oddi mewn i'r maes astudio yw'r orsaf awyrlongau yn RNAS Llangefni, a gliriwyd yn gyfan gwbl ar ôl y rhyfel, a gorchuddiwyd y fan yn ddiweddarach gan RAF Mona. Yn yr un modd nid oes unrhyw adeiladau ar ôl yn y maes awyr sy'n dyddio o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mangor, sefyllfa sy'n gyffredin ledled y Deyrnas Unedig.

O 1935 ymlaen, sef cyfnod o ailarfogi ac ehangu, roedd gan mwy a mwy o feysydd awyr redfeydd concrit addas ar gyfer pob tywydd, ac roedd y rhannau'n amrywio o adeiladau pencadlys a oedd yn bensaernïol dderbyniol, lleoedd bwyta a gwarchodfeydd, i awyrendai ymarferol, tyrau rheoli a blociau technegol. Adeiladwyd wyth deg naw o feysydd awyr newydd ar draws Prydain yn ystod y cyfnod hwn. Trefnwyd y meysydd awyr o gwmpas llain lanio crwn neu hirsgwar ag wyneb gwelltglas, oedd yn fodd i wneud rhediad 1000m mewn unrhyw gyfeiriad. Roedd yr awyrendai'n wynebu'r llain lanio, gyda'r adeiladau eraill wedi eu gosod yn gryno y tu ôl i'r awyrendai. Mae RAF Penrhos, sy'n dyddio o'r cyfnod hwn o ehangu, yn enghraifft o'r math yma. Roedd y mathau o faes awyr yn amrywio yn ôl eu swyddogaeth (hyfforddiant/gweithredol/amddiffyn cartref?), ac mae'r adeiladau a'u cynlluniau'n amrywio'n unol â hynny. Ochr yn ochr â'r cyfnod o ehangu datblygwyd rheoli trafnidiaeth awyr filwrol, ac adeiladu strwythurau cysylltiedig â hynny, yn fwyaf arbennig y swyddfa wyliadwriaeth ar gyfer y peilot ar ddyletswydd er mwyn rheoli symudiadau trafnidiaeth awyr; daeth hyn yn bwysicach wrth i dechnoleg radio ddatblygu. Gwelwn gynnydd mewn dibyniaeth ar ymarferoldeb a'r defnydd o goncrit unwaith y mae'r rhyfel yn torri allan yn 1939.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu miloedd o griwiau hedfan RAF, nifer o'r Gymanwlad a gwledydd eraill, yn hyfforddi ar feysydd awyr yn yr ardal hon, a'r rheiny'n darparu ar gyfer pob cam o'r hyfforddiant, gan wneud Gogledd Cymru yn lleoliad allweddol iawn ar gyfer darparu hyfforddiant, swyddogaeth sydd wedi parhau yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel. Roedd hefyd nifer o feysydd hyfforddi tanio gynnau awyr, ar gyfer hyfforddiant o'r awyr i'r ddaear ac o'r ddaear i'r awyr. Roedd yr ardal hefyd yn darparu amddiffyn yn ystod y dydd a'r nos ar gyfer gogledd orllewin Lloegr. Cyfyngir addasiadau yn ystod cyfnod y rhyfel oer i RAF Fali a'r hen RAF Llanbedr.

Ymwelwyd yn y maes â'r safleoedd hynny sydd â phosibilrwydd eu Cofrestru. Seiliwyd yr argymhellion dros ddynodi ar y meini prawf canlynol:

•  Nodi'r meysydd mwyaf cyflawn a'r rhai hynny sy'n cynrychioli orau'r mathau o orsafoedd awyr â swyddogaeth arbennig;

•  Nodi adeiladau a safleoedd sydd â chysylltiadau cryf â phenodau hanesyddol allweddol , yn arbennig yn ystod yr AIl Ryfel Byd ;

•  Adeiladau unigol a grwpiau mewn cyflwr da, o werth pensaernïol a/neu hanesyddol cynhenid ;

•  Cyd-destun rhyngwladol

Ymhlith yr egwyddorion dros ddewis roedd pethau prin, o ddiddordeb strwythurol technegol, gwerth fel grŵp gydag adeiladau cysylltiedig a phwysigrwydd gweithredol.

Crewyd cronfa ddata gan gofnodi pob un o'r elfennau yn y meysydd awyr â rhif safle unigryw. Mae'n amlwg o'r gwaith a wnaed ar y prosiect hwn fod swm y data a'r posibiliadau ymchwil i safleoedd meysydd awyr yn enfawr. Nid ymwelwyd ag RAF Fali fel rhan o'r rhaglen.

Nodwyd naw safle, ac ystyriwyd fod chwech o'r rhain o bwysigrwydd cenedlaethol posibl. Mae'r safleoedd hyn oddi mewn i amrediad dyddiadau a ddiffiniwyd yn eithaf tynn, ac yn perthyn i'r blynyddoedd hynny oedd yn llawn tyndra milwrol rhwng canol y 1930au hyd y 1960au, er i'r prosiect archwilio safleoedd sy'n berthnasol i'r 20fed ganrif ar ei hyd.

Adroddiad: Robert Evans, Nina Steele

 

Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>