G2156 Gwella cofrestru canoloesol ac ôl-ganoloesol

Adroddiad cryno Ebrill 2011 – Mawrth 2012

Diwydiant canoloesol ac ôl-ganoloesol (Adroddiad gan David Gwyn ac Andrew Davidson)

Roedd y prosiect yn cynnwys astudiaeth pen desg ac astudiaeth maes cyfyngedig o'r dystiolaeth archeolegol ar gyfer safleoedd diwydiannol yng Ngwynedd (ac eithrio trafnidiaeth) yn ystod y cyfnod rhwng 1000 a 1750. Nodwyd safleoedd yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol a ddelir gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, a'r Cofnod Henebion Cenedlaethol a ddelir gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Ychwanegwyd at hyn gan arolwg o'r llenyddiaeth eilaidd, a ddarparodd gyd-destun ar gyfer y safleoedd, gan arwain at nodi safleoedd ychwanegol. Crëwyd catalog, ac yna aseswyd safleoedd ar gyfer eu harwyddocâd archeolegol yn unol â'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer cofrestru henebion. Ymwelwyd â'r safleoedd mwyaf arwyddocaol er mwyn asesu eu cyflwr ar lawr gwlad.

Yng Ngwynedd, effaith cymharol fychan gafodd diwydiant fel gweithgarwch masnachol wedi'i ariannu gan gyfalaf hylifol ac yn wahanol i'r economi amaethyddol cyn y datblygiad diwydiannol enfawr a ddigwyddodd yn niwedd y 18fed ganrif. Fodd bynnag mae tystiolaeth fod amrywiaeth o weithgarwch diwydiannol yng Ngwynedd yn y cyfnod ôl-ganoloesol hyd at 1750. Disgrifir y prif themâu isod.

Cynhaliwyd chwarela am gerrig a llechi, gan gynnwys chwarela ar gyfer cerrig adeiladu, meini melinau/calchfaen, a llechi ar raddfa eang yn yr ardal, er i waith diwydiannol diweddarach orchuddio olion gweithgarwch ar nifer o safleoedd. Nodwyd saith safle a oroesodd er mai prin yw'r dystiolaeth sydd wedi goroesi o'r diwydiant llechi cyn 1750 oherwydd datblygiad enfawr y diwydiant yn ddiweddarach. Nodwyd fod y chwarel meini melinau ym Mynydd y Dref, Conwy, yn un arwyddocaol iawn.

Cynhaliwyd cloddio metelifferaidd, yn bennaf am blwm, arian, aur copr, haearn a sylffad haearn (Fitriol) yn yr ardal. Nodwyd dau ar bymtheg o safleoedd sy'n cynnwys olion canoloesol ac ôl-ganoloesol o bosibl er mai cymharol fychan oedd y dystiolaeth o gloddio cynnar. O'r pum safle yma roedd henebion a gofrestrwyd eisoes. Ni wnaed unrhyw argymhellion ychwanegol.

Mae prosesu mwyn, gan gynnwys gwaith pwdlo, ffwrneisi chwyth a gefeiliau yn ddiwydiant a gofnodwyd yn gymharol eang. Mae'r gwaith a wnaeth Peter Crew wedi nodi nifer o safleoedd pwdlo'n dyddio o'r 14eg ganrif, yn arbennig yng Nghoed y Brenin. O ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen disodlwyd nifer o weithfeydd pwdlo gan ffwrneisi chwyth. Mae ffwrneisi chwyth cynnar wedi goroesi yn agos i Ddolgellau, a ger Capel Curig. Ystyriwyd bod tri safle o bwysigrwydd cenedlaethol :gwaith pwdlo canoloesol ym Mryn Gefeiliau, gwaith pwdlo a ffwrnais chwyth yn Nol y Clochydd, a ffwrnais chwyth o ddechrau'r 18fed ganrif yn Nolgun.

Yng Ngwynedd cyfyngwyd cynhyrchu glo i'r maes glo ar Ynys Môn gyda thystiolaeth ddogfennol o ganol y bymthegfed ganrif ymlaen. Ystyriwyd pwll glo Tyddyn Mawr yn enghraifft arbennig o dda o bwll glo sydd wedi goroesi o'r 17eg ganrif.

Archwiliwyd nifer o ddiwydiannau eraill, gan gynnwys cynhyrchu golosg, coedwigaeth, dillad gwlân, tecstiliau, pannu ac adeiladu llongau. Roedd melinau dŵr oddi allan i gylch gwaith y rhan hon o'r prosiect, gan eu bod yn cael eu harchwilio fel rhan o brosiect ehangach oedd yn cynnwys melinau blawd. Tra bod tystiolaeth fod y diwydiannau eraill wedi chwarae rhan allweddol yn economi Cymru, ychydig iawn o olion sydd ar gadw a nodwyd.


Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>