G2156 Gwella cofrestru canoloesol ac ôl-ganoloesol

Adroddiad cryno Ebrill 2011 – Mawrth 2012

Melinau Sir Gaernarfon (Adroddiad gan Robert Evans ac Adelle Burnett)

Nod y prosiect hwn oedd nodi safleoedd canoloesol ac ôl-ganoloesol melinau yn Sir Gaernarfon, asesu eu cyflwr a, lle bo'n addas, argymell safleoedd ar gyfer eu Cofrestru. Roedd melinau dŵr, a ddefnyddiwyd ar gyfer melino a phannu ŷd yn gyffredin o'r Oesoedd Canol ymlaen. Rhestrwyd y cyntaf yn eglur mewn stentiau canoloesol, ac mewn nifer o achosion mae modd nodi'r safleoedd drwy dystiolaeth enwau lleoedd sydd wedi goroesi. Mae'r prosiect wedi nodi 486 o safleoedd melinau neu felinau posibl, drwy ymchwil mewn archifau, cartograffeg, a hefyd dogfennau. Archwiliwyd yr holl safleoedd ar argraffiad 1, 2 a 3 y Mapiau Ordnans, yn dyddio rhwng 1888 a 1917, ffotograffau diweddar a dynnwyd o'r awyr a Map Ordnans Digidol Mastermap er mwyn sefydlu cyflwr presennol y safleoedd ac er mwyn pennu pa rai all fod yn addas ar gyfer eu cofrestru, ar sail y meini prawf cofrestru a ddarperir gan Cadw. Yn ogystal â'r Mapiau Ordnans, y ffynonellau gorau ar gyfer nodi safleoedd melinau yw llawysgrifau'r stadau a gedwir yn y storfeydd archifau cenedlaethol a lleol, sy'n cynnwys rhenti, prydlesi, ac yn bwysicach na dim, mapiau. Ymhlith y dystiolaeth a welir yn yr olaf mae melinau a oedd yn dal i fod yn weithredol yn y 18fed ganrif, allai fod â gwreiddiau cynharach, a safleoedd hen felinau a gynhwysir mewn tystiolaeth a geir mewn enwau lleoedd.

Mae llawer o'r melinau a nodwyd yn yr adroddiad yn dyddio o'r cyfnod ar ôl yr Oesoedd Canol, a bu casgliadau llawysgrifau stadau o ddefnydd arbennig wrth nodi gwreiddiau'r rhain yn ogystal â rhoi tystiolaeth ychwanegol o felinau â'u gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol. Mae'r safleoedd hyn yn amrywio o ran dyddiadau, o'r cyfnod canoloesol hyd at y 19eg ganrif, ac maen nhw'n cynnwys amrywiaeth o fathau o safleoedd a thechnolegau, wedi eu gyrru gan ddŵr neu wynt yn gyffredinol.

Ymwelwyd â'r safleoedd hynny a ystyriwyd oedd â photensial i'w cofrestru, tua 45 i gyd, rhwng Ionawr a Mawrth 2012. Archwiliwyd y melinau, yr adeiladau cysylltiedig â'r systemau rheoli dŵr yn y maes. Crëwyd cofnod ffotograffig o'r melinau a chawsant eu disgrifio'n llawn ar ffurflenni cofnod GAT a gynlluniwyd i'r diben, wedi eu seilio ar y meini prawf cofrestru. Cofnodwyd yr wybodaeth a gasglwyd ar gronfa ddata o felinau, gyda phob safle'n cael rhif nodi unigryw (PRN), sy'n cynnwys swmp yr wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r astudiaeth.

Mae'n amlwg o'r gwaith a gynhaliwyd ar y prosiect hwn fod swm y data a'r posibiliadau ymchwil i felinau Sir Gaernarfon yn helaeth. Mae'n sicr fod mwy o felinau o ddiddordeb yn Sir Gaernarfon, ac efallai rhai o ansawdd y gellir eu cofrestru, a dim ond ar ôl gwneud mwy o ymchwil dogfennol a gwaith maes y gellir asesu'r rhain.

Nodwyd naw safle a ystyriwyd oedd o bwysigrwydd cenedlaethol, ac ystyriwyd fod chwech arall â photensial tebyg.

 

Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>