Anheddiad Rhufeinig Tai Cochion, Ynys Môn (G1632)

Adroddiad cryno Ebrill 2010 – Mawrth 2011


Arolwg magnetomedr yn dangos lleoliad y ffos gloddio

Y mae defnyddwyr datgelydd metel wedi darganfod symiau mawrion o waith metel Rhufeinig o gaeau o amgylch Tai Cochion, yn agos i lan y Fenai ar Ynys Môn. Yn ystod y 1860au, gwnaed adroddiadau rheolaidd i Gymdeithas Hynafiaethau Cymru am ddarganfyddiadau Rhufeinig yn y caeau rhwng Barras a Threfarthen. Tybiwyd ar y pryd eu bod arwyddion o weddillion safle Brythonig-Rufeinig o statws uchel.

Dangosai wybodaeth y defnyddwyr datgelydd metel y ceid swm anarferol o ddefnydd statws uchel ar y safle, a oedd yn awgrymu safle Rhufeinig â chysylltiadau â’r fyddin. Penderfynwyd, felly, i archwilio’r ardal gan ddefnyddio arolwg geoffisegol. Gwnaed yr arolwg mewn tri cham, y cyfan wedi’u hariannu gan Cadw. Yr oedd y cam cyntaf yn rhan o’r prosiect safleoedd milwrol Rhufeinig a gynhaliwyd drwy Cymru gyfan (Hopewell 2009, YAG adroddiad 778); yr ail gam yn rhan o’r prosiect AHNE Ynys Môn (G2076); a’r trydydd – wedi’i ariannu gan gymhorthdal amgylchiad annisgwyl gan Cadw – hefyd yn rhan o’r prosiect safleoedd milwrol Rhufeinig (G1632).

Gwnaed arolwg o fwy nag 20 hectar, a darganfuwyd fod y rhan fwyaf o’r ardal yn cynnwys elfennau o anheddiad eang. Yr oedd yr anheddiad yn cynnwys heol 0.6km o hyd, gydag amryw o fân heolydd yn canghennu ohoni, yn mynd o dŷ Tai Cochion i lan y Fenai. O boptu’r heolydd, ceid cyfres o lociau bychain, gyda dimensiynau nodweddiadol o dua 20m x 40. Cynhwysai llawer o’r llociau anomaleddau petryal gweddol eglur y gellir eu dehongli orau fel adeiladau, gyda dimensiynau nodweddiadol o oddeutu 16m x 8m. Canfuwyd tua 25 o adeiladau posibl gan yr arolwg. Ymddangosai fod y rhan fwyaf ohonynt yn betryal, a chanddynt israniadau mewnol, o bosibl. Ymddangosai fod rhai yn fwy cymhleth, gydag estyniadau neu ystafelloedd ychwanegol. Yr oedd rhannau gorllewinol a deheuol yr anheddiad yn weddol rheolaidd, gydag un adeilad ym mhob llain. Yr oedd y rhannau gogleddol a dwyreiniol yn llai rheolaidd ac yn anos i’w dehongli. Gall hyn ddynodi un ai presenoldeb nifer o is-gyfnodau, neu ardal o weithgaredd gwahanol. Ceid anomaleddau thermoweddill posibl ar wasgar drwy’r anheddiad; a gallai hyn ddynodi aelwydydd, poptai neu ffwrneisi. Ymddangosai fod y lleiniau wedi’u diffinio gan ffosydd bychain, ond nid oedd unrhyw arwyddion amlwg o amddiffynfeydd sylweddol o amgylch yr anheddiad. Darganfuwyd sawl is-gyfnod o gaeau i’r gogledd o’r anheddiad. Gellid dweud mai terfynau oedd rhai, sydd wedi’u dangos ar fap ystad o’r 18fed ganrif, ond gellid cysylltu rhai eraill â’r anheddiad. Gwnaed casgliad darganfyddiadau arwyneb, a oedd yn cynnwys 207 telchyn o Grochenwaith Rhufeinig, yn y cae i’r de o Dai Cochion. Archwiliwyd y rhain gan Peter Webster, a chanfuwyd bod ganddynt amrediad dyddiadau o c. AD 100 i c. AD 300. Yr oedd y rhan fwyaf yn ddefnydd statws uchel o’r 2ail ganrif, sydd yn awgrymu presenoldeb safle Rhufeinig o gryn bwysigrwydd.

Yr oedd canlyniadau’r arolwg geoffisegol a’r darganfyddiadau’n awgrymu’n gryf mai anheddiad Rhufeinig oedd yma, yn hytrach nag anheddiad tai crwn Brythonig-Rufeinig, a awgrymwyd gan astudiaethau cynharach. Y mae cynllun yr anheddiad, gyda heol ganolog a lleiniau yn cynnwys adeiladau petryal o boptu iddi, yn debyg i bentrefi a threfi bychain Rhufeinig megis Sedgefield ger Durham (gwybodaeth gan Dr D. Mason yn Burnham 2007). Y mae lleoliad y safle ar lan y Fenai gyferbyn â chaer Rufeinig Segontiwm yn awgrymu fod yr anheddiad yn nodi man croesi’r Fenai. Y mae’n debygol y byddai anheddiad wedi tyfu o gwmpas man glanio, ac y byddai wedi gweithredu fel canolfan fasnachu gyda thrigolion Ynys Môn.

Yn haf 2010 cynhaliwyd cloddiad asesu o ardal 40x20m. Yr oedd yr ardal yn amgynnwys anomaleddau geoffisegol a oedd wedi’u dehongli fel adeilad petryal, heol, a ffosydd terfyn lleiniau. Cynhaliwyd cloddiad cymunedol a barhaodd am dair wythnos. Defnyddiwyd gwirfoddolwyr a oedd â gwahanol lefelau o brofiad, yn cael eu goruchwylio gan David Hopewell a George Smith o YAG. Cynlluniwyd y prosiect i ddarparu asesiad o botensial archaeolegol yr ardal, i brofi dehongliad yr arolwg geoffisegol, ac i ganfod unrhyw nodweddion a oedd yn bresennol. Fodd bynnag, nid oedd cloddio nodweddion pwysig yn llawn yn un o amcanion y prosiect. Cloddiwyd y safle i’r haenlin archaeolegol gyntaf ac fe’i cofnodwyd. Yna, samplwyd nodweddion dethol. Canlyniad hyn oedd darparu arolwg cyffredinol da o’r archaeoleg ac adfer darganfyddiadau o gyd-destynnau stratigraffig, gan adael y rhan fwyaf o’r nodweddion yn gyflawn i raddau helaeth. Yr oedd canlyniadau’r cloddiad yn cadarnhau dehongliad yr arolwg geoffisegol. Ceid heol wyth metr o led, o wneuthuriad nodweddiadol Rufeinig, yn croesi cornel de-ddwyreiniol y safle. I’r gorllewin o’r heol, ceid adeilad petryal 14m x 5m, gyda sylfaeni carreg yn ôl pob tebyg, a goruwchadeilad o bren, plethwaith a dwb. Yr oedd hwn wedi’i losgi, ac ymddengys fod cryn dipyn o ddefnyddiau adeiladu wedi’u dwyn oddi yno. Canfuwyd fod ffosydd y llain yn weddol fychan, ac y byddent wedi gweithredu fel nodau terfyn. Nid ymddengys fod y traeniau o natur amddiffynnol. Gwahenid yr adeilad oddi wrth yr heol gan iard fetel.

Cynhwysai’r ardal i’r gorllewin o’r adeilad bydewau, clytiau o ddefnydd wedi’i losgi, ac ysgubor chwe phostyn. Darganfuwyd bron i 1000 telchyn o grochenwaith, ynghyd â nifer o ddarnau arian, gan gynnwys rhai o gyd-destynnau stratigraffig. Y mae dadansoddiad rhagarweiniol yn awgrymu fod y darganfyddiadau’n dyddio o ddechrau i ganol yr 2ail ganrif i ganol y 3edd ganrif.

 

Adroddiad dros-dro Cloddiad Tai Cochion 2011 mewn ffurf PDF. Mewn Saesneg yn unig.

 


Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>