Gwella Cofrestru Canoloesol ac Ôl-ganoloesol: Adroddiad cwmpasog

Adroddiad cryno Ebrill 2010 – Mawrth 2011

Ymgymerwyd â phrosiect cychwynnol i asesu’r potensial o wella’r gofrestr henebion ar gyfer y cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar. Cynhaliwyd y prosiect trwy Gymru gyfan gan bob un o’r Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymreig, a gwnaed amrediad eang o asesiadau a oedd eisoes wedi’u gwneud ar gyfer pob dosbarth o heneb o fewn y cyfnodau Cynhanesyddol a Rhufeinig. Bwriad y prosiect oedd i ddefnyddio’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) rhanbarthol i ganfod a chategoreiddio pob safle canoloesol ac ôl-ganoloesol (hyd at AD 1750), ac i asesu potensial y categorïau sydd wedi’u diffinio ar gyfer gwella’r gofrestr o safleoedd o bwysigrwydd cenedlaethol. Yr oedd y broses ddewis, felly, yn gofalu y byddai’r safleoedd dynodedig yn addas ar gyfer eu cofrestru. Golyga hyn nad oedd y rhestr derfynol yn cynnwys rhai mathau o safleoedd, megis y rhai hynny a oedd fwy addas i gael eu diogelu drwy eu Rhestru, neu hen safleoedd lle nad oedd unrhyw olion archaeolegol wedi goroesi. Rhannwyd y safleoedd i chwe chategori, wedi’u diffinio gan Cadw, sef Eglwysig; Diwydiannol; Amaeth a chynhaliaeth; Trafnidiaeth; Trefol; a Milwrol. Dim ond y pedwar categori cyntaf oedd angen eu hasesu’n llawn ar gyfer y prosiect.

Methodoleg
Aed trwy ‘ciplun’ o’r data a gedwir yn y CAH yn Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd a’i hidlo i dderbyn pob safle o’r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol, a phob safle na wyddys ei ddyddiad. Hidlwyd y canlyniad ymhellach i gael gwared â’r safleoedd hynny yn yr adran dyddiad anhysbys, a oedd yn debygol o fod o’r cyfnod cynhanesyddol. Ni wnaed unrhyw hidlo pellach ar y pwynt hwnnw, ond gwnaed mwy o hidlo pan archwiliwyd pob dosbarth o ddata yn fanylach. Yr oedd rhyw 14,000 o gofnodau’n weddill, a rhannwyd y rhain i’r chwe adran y cytunwyd arnynt ynghynt. Archwiliwyd yr adnodd o fewn pob categori, a, lle bo’n bosibl, nodwyd y rhifau a oedd eisoes wedi’u cofrestru a’u rhestru. Casglwyd disgrifiadau o waith a oedd wedi’i wneud yn flaenorol ym mhob categori, a gwnaed asesiad o botensial wella’r gofrestr.

Safleoedd eglwysig
Yr oedd 1089 o safleoedd o fewn y categori hwn. Rhannwyd y rhain ymhellach i bedwar categori arall, sef: eglwysi a chapeli nad ydynt yn cael eu defnyddio; safleoedd mynachaidd (ag eithrio maenorau); croesau a chroesfeini; a ffynhonnau sanctaidd.

Safleoedd diwydiannol
Rhannwyd y safleoedd hyn yn ddiwydiannau echdynnu (cloddfeydd metel, glo, calchfaen, gwenithfaen, a chwareli meini melinau); safleoedd prosesu; a safleoedd melinau dŵr a gwynt.

Amaeth a chynhaliaeth
Yr oedd 2168 o safleoedd yn y categori hwn. Yr oedd y rhan fwyaf yn systemau caeau a therfynau caeau, ond yr oedd cyfrannau pwysig eraill yn cynnwys corlannau, cwningaroedd a pharciau ceirw. Cynhwyswyd maglau pysgod yn y categori hwn, ac hefyd safleoedd o echdynnu mawn. Canfuwyd bod odynau yn isgategori a oedd heb ei gynrychioli’n iawn yn y cofnod. Dim ond pedair odyn sychu grawn sydd wedi’u cofnodi yn y CAH, a gwyddys fod hyn yn dangynrychiolaeth, gan eu bod wedi’u darganfod yn aml ar gloddiadau. Yr oedd yr enghreifftiau cynharaf yn cynnwys dwy ddysgl wedi’u huno neu eu cysylltu gan ffliw – un ar gyfer y tân a’r llall i gynnal llwyfan ar gyfer y grawn. Fe’u dyddir i’r cyfnod Rhufeinig diweddar hyd at y ddeunawfed ganrif, pan y’u disodlwyd gan odynau carreg gyda theils odyn wedi’u cynhyrchu. Y mae odynau gwymon ac odynau rhedyn yn gysylltiedig â’r rhain – ar gyfer cynhyrchu sylffwr a ffosffad, a ddefnyddid yn bennaf i wneud gwydr. Cofnodwyd tair odyn, ond y mae’n debygol fod hyn hefyd yn dangynrychiolaeth. Nid oes yr un wedi’i rhestru na’i chofrestru. Nid oes yr un safle echdynnu na phrosesu mawn wedi’i restru na’i gofrestru, ond y mae’r rhain yn anodd i’w dyddio o olion sydd ar yr arwyneb yn unig.

Anheddiad gwledig
Cynhwysai’r grŵp hwn bob anheddiad gwledig, tai ac adeileddau cysylltiedig. Yr oedd hwn yn ddosbarth mawr, ac anodd i’w ddosbarthu, ac yn cynnwys hefyd pob anheddiad gwledig anghyfannedd. Cydnabuwyd mai canlyniad yr asesiad Anheddiad Gwledig Anghyfannedd oedd cofrestru sampl cynrychioladol o aneddiadau anghyfannedd. Fodd bynnag, canolbwyntiai’r prosiect ar weddillion adeiladau, a cheid llai o ffocws ar systemau caeau cydffiniol, corlannau defaid ac adeileddau cysylltiedig.

 

Gwella Cofrestru Canoloesol ac Ôl-ganoloesol (G2156)

Safleoedd eglwysig: Adroddiad cryno Ebrill 2010 – Mawrth 2011
Bwriad y prosiect hwn oedd i archwilio’r adnodd a geir yn y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol am bob safle eglwysig o’r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol (hyd at 1750). Rhannwyd yr adnodd i bedwar categori: Cerfwaith Carreg Canoloesol; Ffynhonnau Sanctaidd; Capeli Canoloesol Anghyfannedd; a Chaeadleoedd Mynachaidd.

Croesau a Chroesfeini Canoloesol


Yr oedd y rhan hon o’r prosiect, ceid asesiad o’r henebion beddrodol carreg wedi’u cerfio, yn cynnwys cerrig beddau, llunddelwau a chroesau. Ni ddarganfuwyd enghreifftiau pendant o groesau seciwlar (e.e. croesau marchnad), er y gwyddys eu bod wedi bodoli. Darganfuwyd pedair carreg ar ddeg a thrigain. Nid oedd lleoliad naw ohonynt yn wybyddus, yr oedd wyth eisoes yn gofrestredig, a thair yn rhestredig. Yr oedd deugain a dwy o’r gweddill mewn eglwysi. Ceid saith slab yn Ysgol Friars, Bangor.

Ffynhonnau Sanctaidd


Diffinnir ffynnon sanctaidd fel ffynnon sy’n gysylltiedig ag addoliad Cristnogol, er y gallent fod yn tarddu o’r cyfnod cynhanesyddol. Y maent yn enwog am fod yn anodd i’w dyddio, ac y mae’r rhan fwyaf o’r gweddillion sydd wedi goroesi y gellir eu dyddio yn perthyn i’r cyfnod ôl-ganoloesol, er ei bod yn debyg eu bod yn tarddu o gyfnod cynharach. Archwiliodd y prosiect 51 ffynnon, o gyfanswm o 215. Diffiniwyd y cyfan fel ‘ffynhonnau arwyneb’, hynny yw, yn cael eu dŵr o ffrwd ac nid drwy gloddio’n ddyfnach i graig. Rhannwyd y ffynhonnau ymhellach i byllau bychain a phyllau mawrion (trochi). Yr oedd bron i hanner y pyllau bychain yn bantiau naturiol syml, ac yr oedd y gweddill wedi’u cynnwys o fewn waliau cerrig. Gorchuddiwyd nifer fechan â slab. Yr oedd yr holl byllau mwy o fewn waliau cerrig, er bod rhai’n dirywio’n ddrwg, ac i’w gweld fel gwrthglawdd yn unig. Ailadeiladwyd nifer o’r ffynhonnau i’w defnyddio fel cyflenwad dŵr modern.

Eglwysi a chapeli anghyfannedd


Yn y rhan hon o’r prosiect, archwiliwyd pob safle eglwys a chapel canoloesol y gwyddys amdanynt, nad oedd bellach yn eiddo i’r Eglwys yng Nghymru. Rhannwyd y safleoedd i: eglwysi plwyf; capeli y bedd; safleoedd a gysylltir â’r Llys/Maerdref; Capeli anwes; Capeli’n gysylltiedig â chyn-eglwysi ‘clas’; capeli mewn bwrdeistrefi canoloesol; capeli siantri; capeli ffynnon a chapeli mynachaidd. Y mae’r syniad o eglwysi bychain yn ddibynnol ar ‘fam’ eglwys ragorach yn un cynnar, a gall mai hyn oedd dechreuadau rhai capeli. Fodd bynnag, bu diwygiadau eglwysig yn ystod y 12fed ganrif a achosodd ddatblygiad yn y system blwyfol; gwelwyd newid mewn statws, a daeth nifer o gyn-gapeli yn eglwysi plwyf, er bod hierarchaeth benodol yn parhau i fod yn amlwg mor ddiweddar â’r 18fed ganrif. Canfuwyd bod nifer o safleoedd a enwyd yn ‘gapeli’ yn fynwentydd canoloesol cynnar, heb unrhyw dystiolaeth o bresenoldeb adeilad canoloesol.

Caeadleoedd mynachaidd


Archwiliwyd safleoedd mynachaidd pwysig a ffrierdai yn y rhan hon o’r prosiect. Yr oedd yn cynnwys tri sefydliad Awstinaidd ym Mhenmon, Enlli a Beddgelert; tair mynachlog Sistersaidd yng Nghonwy, Maenan a Chymer; a dau ffrierdy ym Mangor a Llanfaes. Yr oedd y tri sefydliad Awstinaidd yn gysylltiedig ag un ai eglwys ‘glas’ Gymreig frodorol, neu anheddiad mynachaidd a gysylltid â mudiad asgetaidd y ‘celi du’ o Iwerddon (cyfeirir at yr aelodau’n aml fel ‘culdeaid’). Symudwyd y fynachlog Sistersaidd yng Nghonwy i Faenan ym 1283. Ceir rhai gweddillion sy’n sefyll yn y ddau safle, ond y mae cloddiadau sy’n digwydd ar hyn o bryd ym Maenan wedi datgelu mwy o’r adeiladau cwfeiniol. Yng Nghymer y mae’r enghraifft orau o dystiolaeth sy’n sefyll, ond ceir ychydig o amheuaeth ynglŷn â chynllun rhan ddwyreiniol yr eglwys a’i ddiben. Nid oes unrhyw weddillion sefyll yn yr un o’r ddau safle ffrierdy, ond gwyddys eu lleoliad o ganlyniad i weddillion sydd wedi’u claddu.


Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>