Henebion Defodol Cynhanesyddol ac Angladdol Cymru Gyfan (G1629BG)
Cylch cerrig wedi’i ailddarganfod, Bryn Gwyn, Ynys Môn

Adroddiad cryno Ebrill 2010 – Mawrth 2011


Twll carreg ym Mryn Gwyn

Cynhaliwyd y prosiect hwn – i adnabod ac asesu gweddillion cylch cerrig ‘coll’, a ddisgrifiwyd gyntaf yn nechrau’r 18fed ganrif – yn ystod Rhagfyr 2010.

Yr hyn sydd wedi goroesi o’r hen gylch yw dau faen hir (Heneb Gofrestredig An 022) – un yn 4m o uchder, sydd y maen hir mwyaf yng Nghymru. Mae’r meini hirion 300m i’r de-orllewin o hengor Neolithig Castell Bryn Gwyn. Archwiliwyd y meini hirion gan arolwg geoffisegol yn 2007, a chanfuwyd tri thwll maen hir gan gloddiad yn 2008. Gwnâi dau o’r tyllau ynghyd â’r ddau faen a oroesodd gylchran gyda diametr o 16m.

Yn 2010 canfuwyd tyllau tri maen hir arall o’r cylch, gan wneud saith o’r wyth maen a ddisgwylir i wneud cylch cyfan. Ailgloddiwyd dau dwll a gloddiwyd yn 2008, a oedd yn cynnwys bonion meini hirion wedi’u torri. Gwnaed hyn i leoli a samplu cynnwys gwreiddiol y tyllau am dystiolaeth dyddio radiocarbon posibl. Nid oedd unrhyw arteffactau in situ yn y cynnwys gwreiddiol. Darganfuwyd wyth nodwedd bychain – tyllau pyst, y mae’n debyg – ar ymyl pedrant de-ddwyrain y cylch. Daeth wrn colerog bychan tebygol o un o’r rhain (F. Lynch, cyfathrebiad personol), ac hefyd dyddodiad corfflosgi yn cynnwys gweddillion pedwar unigolyn – un plentyn newydd-anedig, un plentyn ifanc, un llanc neu lances ac un is-oedolyn neu oedolyn (G. Tellier).

Y mae darganfyddiad cylch cerrig pwysig ar Ynys Môn o ddiddordeb archaeolegol mawr, ac ymddengys fod cysylltiad rhwng y cylch a hengor yng Nghastell Bryngwyn, gerllaw. Y mae’n debyg fod hyn yn ffurfio tirwedd seremonïol, a oedd o bosibl yn gysylltiedig â sianel Afon Braint, sydd bellach wedi llenwi â silt.

Gwnaed adroddiad rhagarweiniol ar y cloddiad (Adroddiad YAG rhif 942).

 

Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>