Adeiladau Fferm Hanesyddol: Prosiect peilot (G2114) Adroddiad cryno Ebrill 2010 – Mawrth 2011 Y mae adeiladau fferm hanesyddol yn un o’r prif elfennau yn y broses o nodweddu, deall a diffinio cefn gwlad. Darpar eu hanes a’u datblygiad wybodaeth a thystiolaeth hollbwysig i ddeall archaeoleg amaeth a’r tirwedd gwledig. Yn ogystal, creant adnodd economaidd o bwys mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, wrth ddiffinio cymeriad tirwedd cefn gwlad, a rhoi hynodrwydd a dyfnder hanesyddol i ranbarth, y maent yn darparu cefndir ar gyfer adfywio ardaloedd gwledig. Yn ail, gellir eu haddasu a’u hailddefnyddio, a gall hyn ddarparu isadeiledd ar gyfer defnyddiau economaidd newydd, gan gynnwys twristiaeth a diwydiant lleol.
Yn ddiweddar, y mae English Heritage wedi cynnal nifer o arolygon nodweddu ac asesu ar adeiladau fferm hanesyddol. Daethpwyd i’r casgliad fod angen gwell gwybodaeth o’r stoc adeiladau hanesyddol er mwyn i bolisi cadwraeth a chynllunio yn y dyfodol fod yn effeithiol (Historic Farm Buildings: Extending the evidence base, English Heritage 2007). Yn yr un modd, yng Nghymru, y mae’n hanfodol deall yr adnodd er mwyn rhoi cyngor addas ar gadwraeth, rheolaeth, ailddefnydd ac addasu. Gofyn hyn am ddealltwriaeth glir o ddatblygiad hanesyddol adeiladau fferm; gwybodaeth gadarn o’u goroesiad, wedi’i seilio ar y dystiolaeth ddiweddaraf; a dealltwriaeth o’u hynodrwydd a’u cymeriad rhanbarthol. Bwriad y prosiect cwmpasog hwn oedd i ddarganfod dull addas o ennill y lefel yma o ddealltwriaeth. Rhannwyd y prosiect i dri cham: casglu gwybodaeth; datblygu methodoleg; creu adroddiad. Golygai’r cam cyntaf siarad ag unigolion a mudiadau i gasglu gwybodaeth. Yr oeddynt yn cynnwys: Un o ganfyddiadau’r prosiect oedd gweld yr angen am adroddiad nodweddu. Bwriad hyn fyddai disgrifio natur yr adnodd; asesu pwysigrwydd yr adnodd; a darparu canllawiau ar gyfer asesu pwysigrwydd ffermydd ac adeiladau fferm unigol. Y fethodoleg arfaethedig fyddai defnyddio disgrifiadau Adeiladau Rhestredig a gwaith maes wedi’i dargedu ar y cyd i gofnodi’r adnodd gan ddefnyddio’r meini prawf uchod. Un anhawster o nodwyd oedd diffyg sylw cyflawn ar ardaloedd tirwedd hanesyddol. Fodd bynnag, archwiliwyd ardaloedd ‘Landmap’, a gwelwyd eu bod yn gymedrol llwyddiannus i’w defnyddio, er bod, yn ymarferol, angen ychydig o addasiadau.
|