Prosiect Olion Cnydau AHNE Ynys Môn: Tirwedd cudd Ynys Môn
Cloddiadau yng Ngharrog ac Eglwys y Santes Fair (G2076)

Adroddiad cryno Ebrill 2010 – Mawrth 2011

Canolbwyntiai’r prosiect hwn ar ardaloedd arfordirol Môn, yn benodol yr ardaloedd hynny a gynhwysir yn ardal gadwraeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Môn. Y mae’r ardal hon i raddau helaeth heb ei datblygu, ac y mae’n werthfawr o ran tirwedd oherwydd ansawdd ei golygfeydd, a’i fflora a bywyd gwyllt. Y mae hinsawdd yr ardal hefyd yn dda, a bu’r priddoedd yno yn gyfrifol am ddenu anheddiad yn gynnar yn y cyfnod cynhanesyddol – yn arbennig gan y ffermwyr cynharaf yn y cyfnod Neolithig, ond parhaodd i fod yn ganolbwynt ffermio ac anheddiad drwy gydol hanes. Bu parhad ffermio âr yn gyfrifol am guddio llawer o’r dystiolaeth am yr anheddiad cynharach – o ganlyniad i glirio ac aredig dwys o’r 18fed ganrif i’r presennol. Y mae ffotograffiaeth awyr yn y blynyddoedd diweddar – gan Toby Driver o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), a chan John Rowlands a Dafydd Roberts (o’r cwmni arolwg o’r awyr, Pixaerial) – wedi dechrau datgelu maint anheddiad cynnar, drwy ganfod nifer o safleoedd archaeolegol newydd fel olion cnydau. Cynlluniwyd y prosiect presennol i ymchwilio i ychydig o’r dirwedd gynnar hon drwy arolwg geoffisegol a chloddiad prawf. Cynlluniwyd y prosiect i gynnwys gwaith addysgiadol a gwybodaeth gyhoeddus hefyd – hyn wedi’i gefnogi gan gymhorthdal a gafwyd gan Gronfa Gynaliadwyedd AHNE Ynys Môn.

Canolbwyntiodd blwyddyn gyntaf y prosiect ar arolwg geoffisegol o ddetholiad o wyth safle archaeolegol wedi’u darganfod fel olion cnydau. Darparodd yr arolwg hwn fwy o fanylion am bob safle, gan roi gwell dealltwriaeth o’u natur a’u swyddogaeth. Yr oedd yna fynwent crug-gladdiad o’r Oes Efydd, safle amddiffynnol posibl o’r Oes Efydd Diweddar, dau anheddiad amgaeedig tebygol o’r Oes Haearn, anheddiad Brythonig-Rufeinig, anheddiad statws uchel canoloesol posibl, a thri safle o fath ansicr sydd, o bosibl, yn nodweddion amaethyddol Canoloesol neu Ôl-ganoloesol Cynnar.

Cynlluniwyd ail flwyddyn y gwaith i ymchwilio i ddau o’r safleoedd olion cnydau lle y cafwyd canlyniadau da yn yr arolwg geoffisegol yn ystod y flwyddyn gyntaf. Yr oedd yr ymchwiliad yn golygu cynnal cloddiad prawf er mwyn disgrifio’r olion, darparu tystiolaeth ddyddio a dehongli, ac i asesu eu goroesiad a’u potensial. Bu ail flwyddyn o nawdd gan Gronfa Gynaliadwyedd AHNE Ynys Môn yn fodd i allu cynnal gweithgareddau addysgiadol pellach. Yr ardaloedd a ddewiswyd ar gyfer y gwaith maes oedd lloc pen bryn crwn mawr yng Ngharrog, Llanbadrig, wedi’i esbonio fel safle wedi’i amddiffyn o’r Oes Efydd Diweddar neu’r Oes Haearn Cynnar o bosibl, ac anheddiad amgaeedig bach tebygol, ansicr ei ddyddiad, yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwllgwyngyll. Yr oedd yr olaf o ddiddordeb neilltuol am ei fod gerllaw man glanio cychod tebygol ar lan y Fenai, ac oherwydd fod pin efydd o arddull Lychlynnaidd Wyddelig o’r 10fed ganrif AD wedi’i ddarganfod yn agos at y safle.

Carrog, Llanbadrig


Cynllun yn dangos yr ardal cloddio a nodweddion yn berthynas i'r arolwg geoffisegol

Cwblhawyd y cloddiad yng Ngharrog ym Mai 2010. Dangosodd y cloddiad fod ffos y lloc yn un sylweddol – 4m o led, 2m o ddyfnder, ac yn amddiffynnol y mae’n debyg, ond nid oedd unrhyw beth ar ôl o unrhyw glawdd cysylltiedig. Yr oedd nifer o dyllau pyst a phydewau o fewn y lloc. Profwyd mai aelwydydd o’r cyfnod Neolithig Cynnar oedd rhai o’r pydewau, a chafwyd dyddiadau radiocarbon o’r 4ydd mileniwm Cal CC ohonynt. Dangosant y defnyddid pen y bryn fel gwersyll ymhell cyn adeiladu’r lloc. Ceid ychydig o dystiolaeth arteffactaidd am anheddiad y lloc ei hun, ond dengys dyddiadau radiocarbon o dyllau pyst a’r ffos ei fod wedi’i adeiladu tua 800 Cal CC, a’i fod wedi’i anheddu hyd at oddeutu 400 Cal CC. Cadarnhawyd y dehongliad gwreiddiol, felly, gan wneud y safle yn un o ddiddordeb archaeolegol mawr. Fe’i hadeiladwyd mewn cyfnod pan oedd llociau amddiffynnol o unrhyw fath yn nodwedd newydd yn y tirwedd. Yr oedd, o bosibl, yn cynnwys annedd pennaeth lleol gyda chymuned ffermio ddibynnol yn yr ardal o’i chwmpas, yn byw mewn tai ar wasgar. Un ddamcaniaeth yw fod y math hwn o safle wedi datblygu fel canolfan lle y gellid storio grawnfwyd cymunedol yn ddiogel.

Yn ddiweddar yn ei fodolaeth, wedi iddo lenwi i raddau helaeth â silt, ôl-lenwyd ffos y lloc yn rhannol ac adeiladwyd adeilad petryal bach o’i fewn. Y mae’n debyg mai tŷ bychan oedd hwn, a bod cysylltiad rhyngddo a breuan droi a phwys gwŷdd carreg, ac y mae wedi’i ddyddio i’r 8fed-9fed ganrif Cal AD drwy broses dyddio radiocarbon.

Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwllgwyngyll


Amgaead Eglwys y Santes Fair yn dangos lleoliadau y ffosydd ar arolwg fluxgate gradiomedr

Cwblhawyd yr ail gloddiad prawf yn y lloc yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairpwllgwyngyll, yn Chwefror 2011. Cloddiwyd dwy ardal o ffos y lloc, yn ogystal â’r fynedfa a rhan o’r tu mewn. Ni chafwyd unrhyw arteffactau dyddiadwy o’r cloddiad, ac ni ddangosodd unrhyw anheddiad adnabyddadwy ar wahân i ddau dwll postyn bach. Lleolwyd y lloc ar bentir naturiol bychan, ac yr oedd y ffos yn eithaf mawr, sy’n awgrymu fod y safle wedi’i amddiffyn. Y mae’r diffyg darganfyddiadau yn awgrymu y gellir dyddio’r safle i’r Oes Haearn, ond cyflawnir y broses o ddyddio radiocarbon yn ddiweddarach, a fydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni.

Gwnaed adroddiadau dros dro ar y ddau gloddiad (Adroddiad YAG Rhifau 939 a 946).Y mae’r dyddio radiocarbon ar gyfer lloc Carrog wedi’i gwblhau, ond nid yw wedi’i wneud ar gyfer y lloc yn Eglwys y Santes Fair. Cwblhawyd adnabyddiaeth siarcol pren ar gyfer y ddau safle, ond nid yw dadansoddiadau macrofotanegol eraill ar gyfer y ddau safle wedi eu cwblhau eto.


Amgaead Eglwys y Santes Fair - lleoliad y gwaith cloddio ar lwyfandir gwastad uwchben ymyl yr arfordir

 


Yn ôl i brosiectau a ariannwyd gan Cadw >>