Caerau a Ffyrdd Rhufeinig
Prosiect 1632

Cefndir y Prosiect
Sefydlwyd prosiect i edrych ar agweddau ar safleoedd milwrol Rhufeinig yng Ngwynedd yn 2000. Yn ystod tair blynedd gyntaf y prosiect archwiliwyd ardaloedd o amgylch caerau a llwyddwyd i gael llawer o wybodaeth newydd am vici a datblygiadau allanol eraill. Mae hyn wedi arwain at well rheolaeth o’r safleoedd a mwy o ddealltwriaeth ynglŷn â faint o olion archeolegol sydd ar ôl o amgylch y caerau. Yn 2002 ehangwyd y prosiect er mwyn archwilio rhwydwaith ffyrdd milwrol y Rhufeiniaid. Roedd hynny’n golygu bod angen dod â’r casgliad helaeth ac amrywiol o ddata sydd ar gael at ei gilydd a chofnodi’r llinellau ffyrdd a oedd yn deillio o hynny fel ffeiliau llinol mewn rhaglen GIS. Yn dilyn hynny cynhaliwyd astudiaeth gymharol ar droed ac arolwg o gyflwr y darnau o ffyrdd a oedd yn dal i fodoli fel bod modd gwneud argymhellion ar gyfer cofrestru.


Paratowyd panel darluniadol gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd er mwyn dehongli canlyniadau arolwg geoffisegol manwl David Hopewell a John Burman yng Nghefn Caer Pennal – un o’r caerau a’r vici lle canfuwyd gwybodaeth newydd bwysig ac a fydd yn sail i’r adolygiad o’r argraffiad newydd o ‘The Roman Frontier in Wales’ a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mae’r llun, adluniad diagramatig o’r dystiolaeth geoffisegol, yn rhan o’r panel llawn.
Mae gennym le i ddiolch i Mr Elfyn Rowlands o Gefn Caer, am ei gefnogaeth frwd i’r prosiect.
 
Ffyrdd Rhufeinig: Arolwg ar droed

Datgelodd gwaith ymchwil gan Hugh Toller ddarnau posibl na wyddid amdanynt cynt, o ffordd sydd wedi goroesi rhwng Brithdir a Phennal. Mae’r darnau hyn yn rhan o Ffordd RRX96, sef cyfres o lwybrau i’r gorllewin o Gader Idris a gynigiwyd gan Jones (1959) St. Joseph (1961) a Bowen a Gresham (1967). Archwiliwyd darn 12.8km o hyd o’r Ffordd Ddu, llwybr amlgyfnod ar linell drwy Lanegryn. Canfuwyd ffordd wedi’i hadeiladu’n dda, a oedd yn deillio o nifer o gyfnodau gwahanol. Mae un o’r cyfnodau hyn yn sicr yn gynharach na’r tyrpeg. Mae ffurf a maint y darn o ffordd o’r cyfnod cynnar yn awgrymu y gallai’n hawdd fod yn weddillion ffordd Rufeinig, er na ddylid diystyru’r posibilrwydd o ddehongli’r ffordd fel ffordd dyrpeg gynnar. Byddai ffordd Rufeinig ar yr aliniad hwn yn rhoi mwy o sail i’r awgrymiadau bod adeilad Rhufeinig ym Mheniarth. Archwiliwyd darn arall o ffordd yn dod i lawr o’r tir uchel i’r gorllewin o Bennal ond canfuwyd mai llwybr pynfeirch canoloesol ydoedd. Y darn olaf o ffordd a archwiliwyd yn ystod yr arolwg ar droed oedd rhan o RR68 rhwng Tomen y Mur a Chaer Gai, ar ochr ddwyreiniol Cwm Prysor. Canfuwyd ffordd 5m o led o wneuthuriad da, nad oedd wedi’i chofnodi o’r blaen, gan gynnwys darn igam-ogam. Mae hyn yn cysylltu’r ffordd i lawr o Ddoldinas i ucheldiroedd Moel y Slates. Mae darn o hen ffordd Rufeinig, sy’n ymestyn bron yn ddi-dor am 14km, bellach wedi cael ei nodi rhwng Tomen-y-mur a Ffridd Trawscoed.

Ffyrdd Rhufeinig: Cloddio
Darganfuwyd darn o’r ffordd Rufeinig rhwng Canovium a Thomen y Mur (ffordd RR69a) yn ystod yr arolwg ar droed. Mae’r darn hwn wedi’i gadw’n eithriadol o dda, dan 0.6m o fawn, yn yr ucheldir anghysbell ym mlaen Cwm Penamnen. Cloddiwyd ffos brawf ar draws y ffordd er mwyn asesu i ba raddau y mae’r ffordd wedi cael ei chadw a dilynwyd rhaglen samplau amgylcheddol gynhwysfawr gan Astrid Castledine. Canfuwyd bod y ffordd yn 5m o led a bod sylfaen o lechfeini wedi cael ei gosod ar ben y mawn. Haen o ro a chlai oedd yr arwyneb. Canfuwyd darn o bren a ddefnyddid gan dirfesurydd ar un ochr i’r ffordd. Roedd y ffordd mewn cyflwr perffaith, ac roedd y ffaith nad oedd llawer o ôl erydu arni’n awgrymu ei bod wedi cael ei gadael ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid. Mae profion dyddio radiocarbon ar y mawn uwchben y ffordd ac oddi tani’n cadarnhau’r dyddiad Rhufeinig.
Yn dilyn gwaith chwilio manwl llwyddwyd i olrhain union drywydd y ffordd am 1km rhwng ochr ddwyreiniol Cwm Penamnen a’r llethrau uwchben chwarel Cwt-y-Bugail. Lluniwyd adroddiad a bydd y canfyddiadau’n cael eu cyhoeddi ar ôl i’r dadansoddiad amgylcheddol gael ei gwblhau gan Astrid Castledine.

Ardaloedd o amgylch Caerau Rhufeinig: Cloddio yn Llanfor
Cynhaliwyd cloddiad prawf er mwyn ymchwilio i amddiffynfeydd y gaer yn Llanfor. Gobeithid y byddai’r cloddiad yn gallu rhoi tystiolaeth ar gyfer dyddio’r safle ynghyd ag asesu i ba raddau y mae’r adnodd archeolegol wedi cael ei gadw a beth yw’r bygythiadau posibl i’r heneb. Y nodwedd gynharaf a ganfuwyd yn y cloddiad oedd ffos fas y gwersyll cyrch mawr i’r gogledd o’r gaer. Torrid ar draws hon gan y ffos allanol o’r tair a oedd yn amddiffyn y gaer. Canfuwyd mai’r un fewnol oedd y brif ffos amddiffynnol. Roedd hon ar siâp V, ac roedd yn 1.7m o ddyfnder ac 1.9 m o led. Roedd y ddwy ffos allanol yn 0.8m o ddyfnder ac ni fyddent yn gymaint o rwystr. Roedd y rhagfur oddeutu 8m o led ac wedi’i orchuddio â thywyrch. Codwyd nifer o deilchion crochenwaith yn ystod y gwaith cloddio ond ni ellid rhoi dyddiad pendant iawn iddynt. Fodd bynnag, ni fyddai’r canfyddiadau wedi bod allan o’u lle mewn cyd-destun Fflafiaidd cynnar.


David Hopewell