Porthladdoedd a Harbwrs
Prosiect G1824

Yn rhan gyntaf y prosiect hwn aseswyd harbwrs mwynau Penrhyn, Caernarfon a Phorthmadog, a harbwrs masnachu a physgota lleol Pwllheli a’r Bermo. Yn yr ail ran archwiliwyd harbwrs bwrdeistrefi Edwardaidd Conwy, Cricieth, Harlech a Biwmares, ac olion harbwr llechi’r Felinheli. Daeth yn amlwg yn ystod y prosiect fod y canlyniadau o bob harbwr yn fwy arwyddocaol o’u rhoi mewn cyd-destun ehangach, er enghraifft, wrth edrych ar estyniad llanw Afon Conwy gyda harbwr Conwy; lleoliad Biwmares mewn cysylltiad â Llanfaes, a’r harbwr yn Nhŷ Gwyn mewn cysylltiad â Harlech.

Yn ystod trydedd ran y prosiect hwn aseswyd harbwrs Aberdaron, Aberdyfi, Pensarn, Trefor ac Ynys Cyngar. Dewiswyd Aberdaron fel enghraifft o borthladd bach a oedd, o reidrwydd, yn gwasanaethu cefnwlad helaeth a hefyd yn cefnogi cymuned bysgota leol, ond na ddatblygodd gyfleusterau harbwr gan nad oedd yn ddigon cysgodol. Roedd Aberdyfi’n bwysig iawn fel porthladd rhanbarthol yn aber afon Dyfi, ac yn gwasanaethu cefnwlad sylweddol. Er na ddatblygodd fel harbwr diwydiannol, mae’r newid o harbwr cyn-ddiwydiannol yn cael ei wasanaethu gan rwydwaith cyfathrebu gwael ar y tir, a oedd yn cynnwys ffyrdd o safon isel, i harbwr yn cael ei wasanaethu gan system gyfathrebu rheilffordd/môr â seilwaith wedi’i gynllunio, i’w weld yn glir. Mae Pensarn yn nodweddiadol o safleoedd sydd â tharddiad canoloesol, ond heb lawer o ddatblygiad dilynol tan y 19eg ganrif pan gafodd y ceiau eu gwella er mwyn gwasanaethu diwydiannau lleol bychain a gwelliannau amaethyddol. Mae’r diffyg seilwaith o gyfnodau cyn-ddiwydiannol yn golygu mai’n anaml iawn y gellir adnabod olion archeolegol o gyfnodau cynharach, ond mae’r astudiaeth hon yn dangos y gall archwiliad o dopograffeg a newidiadau yn y dirwedd ddatgelu tystiolaeth o darddiad cynharach. Ynys Cyngar oedd rhagflaenydd harbwr llechi Porthmadog, er ei fod yn llawer llai, ac mae wedi cael ei gynnwys yma i ategu’r astudiaeth gynharach o’r porthladd diweddarach.

Mae Trefor yn enghraifft ddiddorol o ddatblygiad cei i wasanaethu diwydiant lleol pwysig mewn ardal a fyddai fel arall yn cael ei hystyried yn anaddas ar gyfer unrhyw ddatblygiad. Dyma’r enghraifft orau sydd wedi goroesi o nifer o geiau a adeiladwyd ar arfordir gogleddol a deheuol Penrhyn Llŷn i wasanaethu’r chwareli gwenithfaen. Cludwyd cerrig sets o Drefor i drefi a dinasoedd diwydiannol mawr gogledd a gorllewin Lloegr, a chafodd y porthladd gryn ddylanwad drwy hynny ar gymeriad trefi diwydiannol y 19eg ganrif.

Nododd y prosiect faint o olion oedd i’w gweld a pha mor bwysig oeddent. Cynigiodd hefyd argymhellion ar gyfer eu rheoli. Canolbwyntiwyd yn rhan gyntaf y prosiect hwn ar gasglu data wrth y ddesg gan ddefnyddio’r Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, y Cofnod Henebion Cenedlaethol ac adroddiadau am Adeiladau Rhestredig. Lluniwyd cronfeydd data cychwynnol o’r ffynonellau data pwysig hyn. Cynhaliwyd ymweliadau maes ac edrychwyd ar bob harbwr. Cafodd y canlyniadau eu cynnwys yn y gronfa ddata. Aethpwyd ati wedyn i ddadansoddi a dehongli’r canlyniadau a llunio adroddiad.

Andrew Davidson