Arolwg Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol

Prosiect G1629 Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

Prif ran y prosiect hwn oedd yr arolwg a gwblhawyd o’r holl henebion angladdol a defodol cynhanesyddol er mwyn asesu eu gwerth, eu cyflwr a pha mor agored oeddent i ddifrod. Bwriedid i’r arolwg hefyd wella’r disgrifiad ohonynt a galluogi gwell dealltwriaeth ohonynt. Cynhaliwyd yr arolwg hwn yng Ngwynedd yn ystod 2000-2003. Yn ystod y flwyddyn ganlynol cynhaliwyd synthesis prawf o ddata a gedwid gan y pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol sydd yng Nghymru er mwyn cadarnhau eu bod yn gydnaws. Byddai hynny’n sicrhau y gellid cyhoeddi un ddogfen derfynol ar gyfer y prosiect cyfan drwy Gymru. Yn ychwanegol at hyn, cynhaliwyd arolygon topograffig mewn ardal benodol lle ceir nifer o henebion angladdol sef Waun Llanfair, ger Llanfairfechan, yng sir Conwy, er mwyn cael tystiolaeth gefndir i gefnogi gwaith palaeo-amgylcheddol a gynhaliwyd yno fel rhan o’r prosiect.
Ar ôl cwblhau’r arolwg maes yng Ngwynedd, Ynys Môn a gorllewin Conwy yn 2003, cynhyrchwyd adroddiadau manwl ar gyfer Cadw yn ogystal â thri adroddiad byr. Ymddangosodd yr adroddiadau hyn mewn cyfnodolion a gyhoeddir gan gymdeithasau hanes lleol ym Meirionnydd, Sir Gaernarfon ac Ynys Môn. Yn 2006-7 cytunwyd ar rywfaint o waith dilynol, a chyflawnwyd y gwaith hwnnw. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys mwy o waith samplo amgylcheddol ar safle heneb angladdol Waun Llanfair, ger Penmaenmawr, ychydig o waith deongliadol a gwaith cyhoeddusrwydd, ac arolwg geoffisegol o rai henebion dethol a oedd â photensial penodol.

Prosiect Amgylcheddol Safle Heneb Angladdol Waun Llanfair

Roedd y prosiect hwn yn deillio o Arolwg Cadw o Henebion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol ledled Cymru ac fe’i cynlluniwyd fel astudiaeth balaeo-amgylcheddol o un ardal lle ceir henebion angladdol. Roedd yr ardal a ddewiswyd yn ardal o dir uchel uwchben Llanfairfechan a Phenmaenmawr, yn sir Conwy, lle mae crynodiad anarferol o fawr o henebion angladdol a defodol. Mae’r rhain yn cynnwys cylch cerrig mawr, y Meini Hirion, dwy garnedd gylchog fawr a nifer o garneddau bychain o faint a dyluniad amrywiol. Ychydig i’r gogledd o’r rhain mae chwarel bwyeill carreg Neolithig Graig Lwyd ac mae’n bosibl bod cysylltiad rhwng y chwarel a’r crynodiad hwn o henebion.

Yn 2004 cymerodd Astrid Caseldine dair colofn o fawn o ddyddodion ym masn Waun Llanfair a’r ardal o gwmpas. Dengys asesiad rhagarweiniol (AW 2004) bod y colofnau’n cwmpasu ystod gronolegol helaeth, ond nid yw’r astudiaeth lawn wedi’i gwneud eto. Roedd y rhaglen yn 2006-7 yn cynnwys gwaith samplo priddoedd claddedig o henebion amrywiol er mwyn ceisio dadansoddi paill, profion dyddio radiocarbon ac astudiaeth o’r cyd-destun. Y bwriad oedd creu darlun cronolegol o weithgaredd yn yr ardal a dod i ddeall y defnydd a wneid o’r ardal hon o dir uchel cymharol ddiarffordd. Yr henebion a ddewiswyd oedd dau dwmpath llosg, dwy wal grwydrol a thair carnedd. Roedd dwy o’r carneddau’n dwmpathau cerrig syml a oedd yn perthyn i nifer o dwmpathau o’r fath wedi’u gwasgaru o amgylch y basn. Roedd un o’r carneddau’n garnedd ymylfaen fawr â chist ganolog (wedi’i hysbeilio), heneb gofrestredig (PRN 470, SAM C349), a gofynnwyd am ganiatâd i wneud y gwaith gan Cadw.

Cyflawnwyd y brif raglen waith yn Ebrill 2006 dan arweiniad George Smith a John Griffith Roberts â chymorth gwirfoddolwyr lleol a myfyrwyr archeoleg ail flwyddyn o Brifysgol Bangor. Cynhaliwyd y gwaith ar un garnedd yn ystod mis Mehefin a chynhaliwyd y gwaith cloddio yn y garnedd ymylfaen ym mis Tachwedd. Ar ôl cofnodi’r ffosydd a chynllunio pob safle llenwyd y ffosydd yn ôl a rhoddwyd y mawn yn ôl. Cynlluniwyd y gwaith ar y carneddau gyda’r bwriad o osgoi unrhyw ardaloedd canolog lle gellid dod o hyd i gladdiadau neu eitemau eraill a adawyd ar ôl. Cymerwyd samplau cyd-destun o briddoedd claddedig, ar ffurf colofnau a samplau unigol bach a swmpus, lle’r oedd hynny’n addas. Casglwyd golosg ar gyfer dyddio radiocarbon o’r twmpathau llosg ac o’r garnedd ymylfaen, ond ni chanfuwyd dim yn yr un o’r ddwy garnedd syml nac yn y waliau. Anfonwyd golosg cyll o un twmpath llosg am brofion dyddio radiocarbon a’r dyddiad a gafwyd oedd 3230±40 BP (Beta-224978). Nid oedd priddoedd claddedig o dan y waliau ond roedd un wedi’i gorchuddio â mawn basn ac mae’n bosibl y gellir pennu cyfnod cyffredinol o’r cyd-destun mewn perthynas â’r data palaeo-amgylcheddol o’r golofn. Awgryma tystiolaeth amgylchiadol y gallai’r waliau fod yn perthyn i borfelaeth o’r cyfnod canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar yn hytrach na’r henebion cynhanesyddol cyfagos. Dengys astudiaeth ragarweiniol o’r samplau o briddoedd claddedig eu bod yn cynnwys rhywfaint o baill a gofynnir am ragor o ddyddiadau radiocarbon hefyd. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth ddyddio yn un o’r carneddau syml, ond roedd y llall yn cynnwys gwasgariad o ddeunyddiau o’r cyfnod Neolithig Hwyr. Roedd y rhain yn cynnwys darnau o fflint naddedig, gan gynnwys tri chrafwr fflint, cyllell a phen saeth lletraws a gwasgariad o gerrig naddedig o’r Graig Lwyd, a oedd yn cynnwys bwyell garreg gul neu gŷn. Mae’n debyg bod y garnedd a’r arfau fflint a cherrig yn gysylltiedig, ac roedd hyn yn syndod, oherwydd tybid bod y carneddau bach hyn o ddyddiad diweddarach yn yr ail fileniwm a’u bod yn gysylltiedig â’r twmpathau llosg cyfagos. Canfuwyd bod y garnedd ymylfaen, heneb nodweddiadol o’r Oes Efydd Gynnar, hefyd uwchben gwasgariad o fflint naddedig a cherrig o’r Graig Lwyd, ond yn yr achos hwn roedd y deunydd yn y pridd a oedd wedi’i gladdu o dan y garnedd a’i hymylfaen. O ganlyniad, mae’n debyg ei fod yn perthyn i wasgariad cyffredinol o gyfnod cynharach na’r garnedd, ac nad oedd yn gysylltiedig ag adeiladu’r garnedd. Mae’r canfyddiadau hyn yn codi cwestiynau newydd ynglŷn â gweithgaredd yn yr ardal, ac yn awgrymu bod yma weithgaredd ehangach o ryw fath a oedd yn cyfoesi â gwaith bwyeill Neolithig y Graig Lwyd, a bod rhyw fath o gysylltiad, o bosibl rhwng y Graig Lwyd a gweithgaredd angladdol ac anheddol diweddarach yn yr ardal. Bydd modd rhoi gwell trefn ar y cwestiynau hyn pan fydd yr astudiaethau palaeo-amgylcheddol wedi cael eu cwblhau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

George Smith