Clostiroedd wedi’u Hamddiffyn o’r Cyfnod Cynhanesyddol

Prosiect G1770 Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd

Roedd y prosiect hwn yn rhan o asesiad Cadw o glostiroedd wedi’u hamddiffyn o’r cyfnod cynhanesyddol ledled Cymru. Cynlluniwyd yr arolwg er mwyn darparu gwybodaeth gyfredol mewn ffurf gyffredin am natur, gwerth a chyflwr safleoedd o’r fath drwy Gymru gyfan. Gwnaethpwyd y gwaith hwn yng ngogledd-orllewin Cymru yn ystod dau dymor. Edrychwyd ar tua 120 o glostiroedd wedi’u hamddiffyn o’r cyfnod cynhanesyddol. Roedd 61 o’r rhain yn Henebion Cofrestredig. Ymwelwyd ag un o bob pedwar yn unig o’r henebion cofrestredig hyn gan eu bod eisoes yn henebion adnabyddus sy’n cael eu diogelu. Canolbwyntiwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf ar orllewin Conwy, gogledd Gwynedd (Ardal Arfon) ac Ynys Môn, a chwblhawyd y gwaith ym Mawrth 2005. Yn ystod yr ail flwyddyn, 2005-6, ymwelwyd â safleoedd yng ngorllewin Gwynedd (Ardal Dwyfor) a Meirionnydd.

Y Werthyr, Bryngwran
Yn 2006-7 cynhaliwyd rhaglen o asesiadau maes er mwyn edrych ar grŵp o glostiroedd wedi’u hamddiffyn yn rhannol gan amddiffynfeydd o ddwy ffos agos at ei gilydd. Roedd y clostiroedd hyn ym Mhenrhyn Llŷn. Mae’r clostiroedd i gyd wedi’u lleoli ar ben bryniau isel mewn ardaloedd isel. Maent i’w gweld heddiw’n bennaf fel gwrthgloddiau isel iawn neu fel olion cnydau. O ran ffurf, maent yn debyg i fryngaer gofrestredig Castell Odo, ger Aberdaron, sy’n tarddu o’r Oes Efydd ddiweddar. Yr awgrym oedd y gallai’r clostiroedd hyn fod o fwy o werth nag yr awgrymai’r hyn a oedd i’w weld uwchben y ddaear. Cynlluniwyd yr asesiad maes fel rhaglen asesu drwy arolwg geoffisegol o chwe chlostir wedi’u hamddiffyn nad oeddent wedi cael eu cofrestru. Cwblhawyd yr arolwg geoffisegol gan David Hopewell. Dewiswyd chwe chlostir yn Llŷn ond canfuwyd bod dau o’r rhain ar greigwely nad oedd yn addas ar gyfer arolwg geoffisegol. O ganlyniad, dewiswyd dau glostir arall ym Môn. Roedd y rhain yn debyg iawn o ran math a lleoliad, ac roedd un ohonynt yn safle cofrestredig gyda’i amddiffynfeydd wedi goroesi fel gwrthgloddiau ond na wyddid dim am y tu mewn.

Cafwyd llawer o wybodaeth o bump o’r arolygon, a dim ond un, sef Castell Caeron, yn Llŷn, roddodd ganlyniadau gwael, a hynny oherwydd natur greigiog ei leoliad. Canfuwyd tystiolaeth dda o aneddiadau mewn tri chlostir, ar ffurf tai crynion, a gwelwyd tystiolaeth o ddefnydd yn ystod mwy nag un cyfnod ar dri safle. Roedd un o’r rhain, sef safle’r Werthyr, ger Bryngwran, ym Môn, yn cynnwys lloc unionlin llai a oedd wedi’i amddiffyn o fewn y brif fryngaer. Nid oedd neb wedi amau bod y lloc yno cynt. Mae’r brif fryngaer, sydd â’i rhagfuriau i’w gweld o hyd, eisoes yn heneb gofrestredig, ond mae’r pump safle arall yn bodoli’n bennaf fel olion cnydau neu wrthgloddiau isel iawn, ac nid ydynt wedi cael eu cofrestru.

George Smith,
David Hopewell