Arfordir - Treftadaeth Arfordirol

  Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2012-13

Welcome | About the project | Our changing coastline | Getting involved | Dinas Dinllaen

Arfordir Cadw Funded Projects 2012-13 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2012-13
Arfordir Cadw Funded Projects 2011-12 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2011-12
Arfordir Cadw Funded Projects 2010-11 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2010-11

G2072 Arfordir

Adroddiad cryno Ebrill 2012 – Mawrth 2013

Sefydlwyd prosiect Treftadaeth Arfordir yn 2009 i archwilio ardrawiad posibl newid hinsawdd a lefelau môr yn codi ar archaeoleg arfordirol, ac i gynnwys grwpiau diddordeb lleol yn y broses asesu. Bwriad gwreiddiol y prosiect oedd rhedeg am dair blynedd gan orffen ym Mawrth 2012, fodd bynnag yn sgil diddordeb parhaol a grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri penderfynwyd y dylai'r gwaith barhau, er ar lefel ychydig yn llai dwys.

Prif nod y prosiect ar gyfer 2012-13 oedd parhau i gefnogi gwirfoddolwyr a grwpiau profiadol i ymateb i wybodaeth gan y cyhoedd.

Trwy wneud hyn mae nifer o safleoedd newydd wedi cael eu dynodi a nifer o ardaloedd a nodwyd yn flaenorol fel rhai sy'n erydu yn parhau i gael eu monitro. Mae nifer fach o wirfoddolwyr ymroddedig wedi dal ati i weithio ar ddarnau o'r arfordir yn araf a chyson.

 

Porth Neigwl

Yn ystod y flwyddyn hon darganfuwyd lithigau (PRN 31726) mewn ardal newydd lle na chafwyd y fath ganfyddiadau o'r blaen. Tynnwyd sylw at ran o'r arfordir lle roedd twyni tywod wedi erydu gan ddod ag arwyneb llawr i'r golwg. Datgelodd archwiliad o'r ardal bod lithigau'n bresennol ar yr wyneb yn ogystal ag yn rhan o'r clogwyn oedd yn erydu. Yn ystod yr ymweliad byr darganfuwyd pum darn o fflint wedi'i daro, yn cynnwys llafn bach wedi'i daro o graidd ond yr arteffact mwyaf diddorol oedd darn o garreg na chafodd ei hadnabod hyd yma a gafodd ei aildrin ac yn dangos tystiolaeth o draul defnydd. Darganfuwyd dau ddarn fflint (PRN 31727) yn agos at waddod o gerrig wedi'u llosgi (PRN 31601) y credir sy'n dyddio i oes gynhanes, ac a ddynodwyd fel rhan o'r prosiect yn 2011.

 

Nefyn


Adran trwy'r pwll a ddarganfyddwyd yn Nefyn, lle mae'r rhan isaf wedi cael ei ffurfio o gasgen bren

Tynnodd aelod o'r cyhoedd sylw'r Ymddiriedolaeth at ffos bosibl oedd yn weladwy mewn gwaith cloddio fel rhan o ddatblygiad preifat yn nhref arfordirol Nefyn. Credai'r person a adroddodd am y nodwedd y gallai hyn fod yn ffos yn perthyn i hanes cynnar Nefyn gan ei bod o fewn ffiniau'r dref ganoloesol (PRN 3408). Yn yr archwiliad cyntaf, roedd y nodwedd i'w gweld yn glir mewn rhan yn wynebu'r de a'i broffil yn ymddangos yn fras o siap ‘v'. Dangosodd glanhau pellach mai pydew ydoedd, a'i waelod wedi'i leinio gan ran o gasgen bren gyda chylchau haearn (PRN 31728). Nid yw pwrpas y gasgen o fewn y pydew'n amlwg yn syth. O ystyried hen ddiwydiant pysgota penwaig Nefyn mae'n bosibl i'r pydew gael ei ddefnyddio i fygu pysgod, gan fod casgen wedi'i chladdu yn cael ei defnyddio'n draddodiadol i baratoi Smokies Arbroath.

 

Canfyddiadau morol o'r Fenai


Tair o feini melin a chredir iddynt gael ei hailddefnyddio fel angorau

Cysylltodd Mr David McCreadie â'r Ymddiriedolaeth ym Medi 2013 ynglŷn â phedair carreg y daeth o hyd iddynt wrth blymio yn y Fenai. Fe'u dehonglodd fel angorau Rhufeinig, ond roedd yn awyddus i'r Ymddiriedolaeth gael golwg arnynt. Roedd Mr Ian Jones yn Oriel Ynys Môn hefyd wedi rhoi gwybod i'r Ymddiriedolaeth am ingot copr a ganfuwyd wrth ochr nifer o angorau carreg ar wely'r Fenai. Datgelodd ymholiadau pellach bod y ddau set o ddarganfyddiadau yn dod o'r un lleoliad neu leoliad tebyg iawn, er wedi'u canfod gan ddau ddeifiwr gwahanol. Nid oes gennym leoliad cywir ar hyn o bryd, ond Cyfeirnod Grid Cenedlaethol bras yw SH52216944, sy'n eu lleoli ychydig bellter o'r lan yn agos at Blas Newydd, a rhwng Plas Newydd a thŷ cychod y Faenol. Roedd un set o ganfyddiadau'n cynnwys pedwar maen melin o feintiau gwahanol a allai yn ôl eu golwg gael eu hailddefnyddio fel angorau cerrig. Mae'r set arall ym meddiant Oriel Ynys Môn yn cynnwys tair angor garreg, un maen melin, ac un maen melino, y ddau olaf o bosibl wedi'u hailddefnyddio fel angorau. Gerllaw canfuwyd ingot copr crwn o fath Rhufeinig, gyda darn o ingot tebyg. Mae'r ingot copr cyfan a'r darn yn fath Rhufeinig ac yn cydweddu â nifer o ganfyddiadau tebyg o Fôn. Er bod yr holl ganfyddiadau o'r un lleoliad, mae'n annhebygol eu bod o ddyddiad tebyg nac o'r un llong. Dywed Mark Beattie-Edwards, Cyfarwyddwr Rhaglen Cymdeithas Archaeoleg Forwrol a chasglwr prosiect yr “Angor Fawr” ei bod yn gyffredin iawn i ganfod angorau gyda'i gilydd – gall ddangos lleoliad angori cyson, a bod colli angorau yn eithaf cyffredin.


Angor carreg a ddarganfyddwyd yn Afon Menai


Angor carreg a ddarganfyddwyd yn Afon Menai


Ingot copr o ddyddiad Rhufeinig a ddarganfyddwyd yn Afon Menai

 

Gwasgariad Fflint Porth Ruffudd

Yn ystod Sioe Amaethyddol Môn 2012 daeth aelod o'r cyhoedd i siarad â'r Ymddiriedolaeth i roi gwybod am gasgliad o dros 100 o lithigau a godwyd yn ardal Porth Ruffudd, Caergybi. Er bod y rhan fwyaf ohonynt yn amhosibl i'w dadansoddi, roedd meicrolithiau llafn cul a lletach yn awgrymu dyddiad Mesolithig, a darnau eraill mwy nodweddiadol o'r cyfnod Neolithig. Adroddwyd am ganfyddiadau dyddiad Mesolithig o'r safle gan yr Ymddiriedolaeth yn 1982, a'r Ymddiriedolaeth hefyd yn ymwybodol o gasgliad fflintiau arall o'r safle nad yw wedi'i gyhoeddi.


Casgliad o fflintiau a darganfyddwyd ym Mhorth Ruffydd, Caergybi

 

Storws, Bae Cemlyn

Gwnaethpwyd cofnod ffotograffig o storws arfordirol o'r 18fed ganrif yng Nghemlyn, Ynys Môn. Mae'r safle'n cynnwys olion iardiau, sawl storws, swyddfeydd ac adeiladau cartref lle digwyddai masnachu arfordirol yn mewnforio ac allforio. Yr enw lleol ar yr adeiladau yw Y Storws, er bod map OS map 1900 yn dangos tri eiddo – i'r gogledd mae Glan y Môr, i'r de mae Storws (heb ei enwi) ac i'r gorllewin mae Min y Don. Mae llawysgrif Bodorgan ym Mhrifysgol Bangor yn cofnodi rhent yn 1779 i Shadrack Williams yn talu 5/- mewn rhent ar gyfer y storws yn ychwanegol at £12 ar gyfer fferm Fronddu. Roedd Shadrack yn ffermwr lleol, yn fasnachwr a deliwr, ac ymddengys ei fod wedi codi'r storws yng Nghemlyn yn 1779 neu ychydig cyn hynny. Deliodd yn bennaf mewn grawn a glo. Parhaodd ei ddisgynyddion i fasnachu o'r safle tan 1907. Roedd aelodau'r teulu'n byw yn y tŷ ar y safle fel y gallent werthu'r glo a goruchwylio storio'r grawn. Nai Shadrack oedd y pregethwr Y Parchedig John Elias, sydd yn ei hunangofiant yn disgrifio'i ewythr fel ‘gwellhawr mawr a pherchennog llongau, siopwr, gwerthwr ŷd a glo'. Prynodd geirch a grawn gan ffermwyr lleol i'w hallforio ar hyd arfordir Gogledd Cymru, a dychwelai'r llongau gyda chargo o lo a halen.

 

Gorwedda'r safle ar ochr de ddwyreiniol penrhyn bach cul sy'n ffurfio ochr orllewinol Bae Cemlyn. I'r gogledd o'r safle mae lleoliad bâd achub cyntaf Ynys Môn a sefydlwyd yn 1828 gan Gymdeithas achub bywyd rhag llongddrylliad Ynys Mô n. Fe'i caewyd yn 1872 pan gafodd ei symud i Gemaes . Mae pyst angori wedi'u marcio ar fap OS 1900 rhwng y storws a thŷ'r bâd achub. I'r de mae tŷ Bryn Aber, cyn gartref Capten Vivian Hewitt (1888-1965), awyrennwr, gwyliwr adar a dyn cyfoethog unig, a grëodd lyn bach dŵr y môr o fewn rhimyn o gerrig mân trwy godi argae ar draws yr allanfa. Mae'r tir yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac wedi'i lesio gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, sy'n rheoli'r warchodfa natur yng Nghemlyn.


Storws, Cemlyn, o'r de


Tu fewn llawr gwaelod y storfa

 

Yn ôl i dudalen cartref YAG >>