Arfordir - Treftadaeth Arfordirol

  Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2011-12

Welcome | About the project | Our changing coastline | Getting involved | Dinas Dinllaen

Arfordir Cadw Funded Projects 2012-13 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2012-13
Arfordir Cadw Funded Projects 2011-12 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2011-12
Arfordir Cadw Funded Projects 2010-11 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2010-11

Arfordir / Treftadaeth Arfordirol G2072

Adroddiad cryno Ebrill 2011 – Mawrth 2012

Yn ystod y flwyddyn fe wnaeth yr ymdrech i hybu'r prosiect ac i gael mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y gwaith cofnodi'n rheolaidd ddwyn ffrwyth. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i dargedu, drwy e-bost, wirfoddolwyr posibl a ddangosodd ddiddordeb mewn prosiectau eraill gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Cynhaliwyd nifer o sgyrsiau a theithiau tywysedig er mwyn darparu sesiynau blasu i grwpiau a gwirfoddolwyr posibl. Llwyddwyd i gynnal diddordeb yn y prosiect hefyd drwy ddefnyddio tudalen ar Facebook a thudalennau penodol yn ymwneud â'r prosiect ar wefan GAT.

Parhaodd staff GAT i fonitro rhannau o'r arfordir gan ymateb i wybodaeth a gyflwynwyd gan aelodau o'r cyhoedd.

Arolygwyd y mannau dilynol yn 2011-12:

Aberdesach

Nodwyd safle cynhanesyddol, sy'n cynnwys pydewau, haenlinau o bridd wedi'i gladdu a gwasgariad o fflintiau. Sylwyd fod erydu rhewi-dadmer yn ffactor allweddol yn yr ardal hon.

Brynsiencyn

Cerddwyd ardal wedi'i ganoli ar anheddiad Rhufeinig Tai Cochion, sydd newydd ei ddarganfod. Ni ddarganfuwyd unrhyw safleoedd cynnar ond cofnodwyd amddiffynfeydd morwrol yn dyddio o'r 18fed/19eg ganrif a gwaith adfer tir.

Caernarfon, i'r dwyrain o Gored Gwyrfai

Canfuwyd fod yr ardal hon yn weddol sefydlog gan adlewyrchu traddodiad morwrol sydd wedi mynd i'w golli. Cofnodwyd amddiffynfeydd posibl yn dyddio o gyfnod yr Ail Ryfel Byd hefyd. Canfuwyd fod y gored, Cored Gwyrfai, yn sefydlog.

Bae Cemlyn

Cofnodwyd gwasgariadau fflint yma, ynghyd â cheiau ôl-ganoloesol a safleoedd eraill sy'n gysylltiedig â hanes morwrol yr ardal.

Morfa Conwy

Cofnodwyd coed, heb ei ddyddio, wedi'i ddiogelu mewn clai, ar y blaendraeth ynghyd â nodweddion o'r Ail Ryfel Byd a gofnodwyd o'r blaen yn y twyni.

Chwarel Ithfaen Porth Namarch Caergybi

Cofnodwyd nodweddion diwydiannol yma yn dilyn ymholiadau ar ôl darlith ar brosiect yr Arfordir.

 

Cynhaliwyd arolwg hefyd ar Draeth Coch ar Ynys Môn, Traeth Lafan ar Afon Menai, y dirwedd arfordirol rhwng Wylfa a Chemlyn a'r erydiad parhaus ym Mhorth Neigwl a Chricieth. Diweddarwyd y gronfa ddata'n barhaus gyda safleoedd newydd a gwnaed rhywfaint o waith cynnal a chadw er mwyn gwella ymarferoldeb y data a gynhyrchwyd o brosiectau arfordirol cynharach.

Cynhaliwyd arolwg newydd ar ymyl caer Dinas Dinlle sy'n cael ei erydu ac o'i gymharu â data cynharach dangoswyd fod ymyl y clogwyn yn parhau i gilio, yn arbennig felly yn rhan ddeheuol y gaer.

Ehangwyd cwmpas y prosiect yn sylweddol yn dilyn derbyn grant gan gronfa Datblygiad Cynaliadwy AHNE Llŷn. Defnyddiwyd hwn i brynu cyfarpar ar gyfer gwirfoddolwyr ac i ddarparu arian ychwanegol ar gyfer rhagor o waith ar safleoedd a archwiliwyd am y tro cyntaf yn ystod blynyddoedd cynnar y prosiect.

Y cyntaf oedd cloddiad yng nghaer bentir Trwyn Porthdinllaen sy'n cael ei erydu. Archwiliodd y cloddiad amddiffynfeydd y caer a daeth ffosydd dyfnion a rhagfuriau pridd sylweddol i'r golwg. Nodwyd nifer o gyfnodau adeiladu a ddangosai fod y ffosydd wedi cael eu hail-balu a bod y cloddiau wedi eu cryfhau. Yn dilyn llwyddiant y cloddiad sicrhawyd rhagor o arian er mwyn i ysgolion lleol fod â rhan yn y prosiect drwy ymweld â'r safle a chymryd rhan mewn prosiect celf yn canolbwyntio ar hanes y safle.

Roedd ail faes y gwaith dilynol yn cynnwys arolygon geoffisegol yn Nhrwyn Porthdinllaen, Abererch a Glanllynnau; bu gwirfoddolwyr yn cymryd rhan ym mhob un o'r rhain.

Crynhowyd yr holl wybodaeth a gasglwyd dros dair blynedd y prosiect i greu adroddiad terfynol.

 

Adroddiad gan Iwan Parry, Laura Parry a David Hopewell

 

 

 

Yn ôl i dudalen cartref YAG >>