Arfordir - Treftadaeth Arfordirol

  Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2010-11

Welcome | About the project | Our changing coastline | Getting involved | Dinas Dinllaen

Arfordir Cadw Funded Projects 2012-13 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2012-13
Arfordir Cadw Funded Projects 2011-12 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2011-12
Arfordir Cadw Funded Projects 2010-11 | Prosiectau a ariannwyd gan Cadw 2010-11

Arfordir / Treftadaeth Arfordirol G2072

Adroddiad cryno Ebrill 2010 – Mawrth 2011
Hon oedd yr ail o dair blynedd y prosiect. Cynyddodd cofnodion gwirfoddolwyr yn ystod y flwyddyn, a darparodd un unigolyn gweithgar gofnodion o dros 40 safle newydd. Cafwyd hefyd ffrwd gyson o wybodaeth gan wirfoddolwyr eraill a fu’n amhrisiadwy wrth adrodd ar gyflwr gweledol mawnydd a nodweddion wedi suddo a oedd wedi’u cuddio fel arfer gan dywod. Parhawyd i hyrwyddo’r prosiect drwy gyfarfodydd a chyflwyniadau rhagarweiniol a gynhaliwyd yn Harlech ac yn Llanfairpwll, a chodwyd ymwybyddiaeth o’r prosiect mewn sgyrsiau ar brosiectau eraill yr Ymddiriedolaeth.

Cloddiadau
Cynhaliwyd dau gloddiad yn ystod yn flwyddyn. Bu’r cyntaf yn Ionawr 2011 ym Mhenychain, Abererch. Cofnodwyd bod fflint wedi bod yn erydu o’r ardal hon ers dechrau’r 1920au, ond daeth y safle’n ôl i’n sylw drwy’r prosiect Arfordir. Cloddiwyd chwe thwll prawf gyda chymorth gwirfoddolwr. Cynhwysai bump o’r pyllau hyn fflint wedi’i drin, a dangosent arwyddion o arwyneb llawr wedi’i orchuddio â thresmasiad tywod.

Bwriad yr ail gloddiad, yn Chwefror, oedd i benderfynu a oedd orthostat, a ganfuwyd yn erydu o dwyni ym Morfa Abererch yn 2004, yn faen hir gynhanesyddol neu’n nodwedd ddiweddarach. Dangosodd un twll prawf wrth ymyl y garreg ei bod dros 2m o uchder, a’i bod bron yn bendant yn faen hir o’r Oes Efydd. Yn anffodus, bu’n rhaid gadael y twll prawf oherwydd pryderon ynghylch diogelwch cyn gallu canfod toriad twll y garreg a’i sylfaen.

Safleoedd wedi’u canfod gan wirfoddolwyr
Cofnodwyd nifer fawr o nodweddion a gysylltid â HMS Glendower – a ddaeth yn ddiweddarach yn Butlins Pwllheli – ym Mhenychain (pentir creigiog) a’r traeth hir ym Morfa Abererch. Nid oedd y nodweddion hyn wedi’u cofnodi o’r blaen. Cofnodwyd nodweddion a gysylltid â’r Ail Ryfel Byd ac â sefydlu’r gwersyll gwyliau. Yr oedd y cyntaf yn cynnwys nifer fawr o blinthau concrid a llwyfannau magnel, a chynhwysai’r ail safleoedd ceir cebl a rheilffyrdd bychain, a oedd yn rhan o wersyll gwyliau Butlins.

Yng Nglanllynnau, Llanystumdwy, cofnododd gwirfoddolwr a weithiai ar y prosiect ardal o fawn wedi suddo a chored bysgod debygol. Ni wyddys am yr ardal ynghynt. Pan ymwelwyd â’r safle i gadarnhau’r canfyddiad, cafodd yr ymyl wedi’i herydu ei harchwilio am archaeoleg wedi’i heffeithio, a darganfuwyd nodwedd yn cynnwys fflint o ansawdd uchel a chrochenwaith gynhanesyddol yn erydu o ymyl y traeth.

Yng Ngodreddi Bach, Traeth Coch, Ynys Môn, ceir caer danddaearol o’r Ail Ryfel Byd, sydd wedi’i guddio yn rhith fel bwthyn, ynghyd â llwyfannau concrid sy’n gysylltiedig â hwy. Ar hyn o bryd, defnyddir yr adeilad fel sied. Adroddwyd am hyn gan y perchennog presennol, a oedd wedi bod mewn sesiwn cyflwyniadol. Cofnodwyd y safle’n llawn gan y perchennog, a gynhwysodd luniau hanesyddol sydd yn dangos y gaer gyda’i tho ffug gwreiddiol.

Hysbysodd gwirfoddolwr, a fydd yn aml yn hwylio o gwmpas arfordir Ynys Môn, am safle chwarel wenithfaen ym Mhorth Namarch, Caergybi. Dim ond o’r môr y gellir gweld y safle i raddau helaeth. Datgelodd ymchwiliadau pellach ar y lan bresenoldeb gerrig hogi a nodweddion eraill.

O ganlyniad i deithiau cerdded monitro a wnaethpwyd gan YAG yn ystod y flwyddyn, darganfuwyd 24 safle archaeolegol newydd, ac adferwyd dros 35 o arteffactau o ymylon wedi’u herydu.

Hyfforddi
Yn ogystal â’r hyfforddiant a ddarperir mewn dulliau arolwg cyflym, gwnaed cais am gymorth wrth gofnodi arteffactau.

Cynhaliwyd sesiwn yn Amgueddfa Forwrol Nefyn, lle y cafodd gwirfoddolwyr y cyfle i gynorthwyo mewn cofnodi cwch pren, gan ennill profiad o ddarlunio cynlluniau a thrawsluniau, a ffotograffio arteffactau. Y mae hanes y cwch ei hun yn ddiddorol gan ei fod, y mae’n debyg, wedi’i ddarganfod ar boncen dywod yn y Fenai. Awgryma ymchwiliad fod y cwch wedi dod yn wreiddiol o Orllewin Affrica – fel swfenîr, yn ôl pob tebyg. Y mae’n parhau i fod yn ddirgelwch sut y daeth i’r Fenai.

Arolwg
Cynhaliwyd arolwg mesuredig (‘Total Station’) ym Mhenychain, i gynnwys erydiad wynebau cynhanesyddol a nodweddion o’r Ail Ryfel Byd.

Yn ardal cloddio’r maen hir ym Morfa Abererch, cynhaliwyd arolwg llaw System Leoli Fyd-eang o fawn, clai rhewlifol a nodweddion cysylltiedig sydd yn y golwg. Cynhaliwyd arolwg o’r mawn sydd yn y golwg a’r cored bysgod sydd newydd ei darganfod yng Nglanllynnau, Llanystumdwy.

Bas-ddata
Ymgorfforwyd gwybodaeth a gasglwyd yn ystod prosiectau arfordirol cynharach rhwng 1993 a 1997 gyda’r data a gasglwyd gan y prosiect Arfordir cyfredol, er mwyn darparu haen System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) o safleoedd arfordirol a allai gael eu hargraffu fel mapiau i wirfoddolwyr.

 

 

Yn ôl i dudalen cartref YAG >>