08 Allt Ddu

Cefndir hanesyddol

Yr ardal hon oedd canolbwynt gwreiddiol y gwaith cloddio ar ystad y Faenol. Roedd Chwarel Fawr ar waith erbyn 1700, a gweithiwyd y chwareli ym Mryn Glas ac Allt Ddu gan ddeiliaid cyntaf y prydlesau ym 1787. Dechreuai’r ffordd drol wreiddiol at y llyn o’r fan hon, yn ogystal â ffordd lechi Assheton Smith a adeiladwyd ym 1811-2 a’r rheilffordd a adeiladwyd ym 1825. Adeiladwyd melinau sylweddol o 1832 ymlaen, wedi’u gwasanaethu gan incleins. Nid oes unrhyw beth arall o ddiddordeb hanesyddol yn yr arda.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ardal a dirluniwyd yn ddiweddar

Tirluniwyd yr ardal hon yn helaeth iawn rhwng 1982 a 1988, ar ôl cwblhau’r gwaith cynllunio gwreiddiol ym 1976. Cynhwysodd y gwaith tirlunio hwn wthio rwbel llechi i byllau’r chwarel, graddoli’r ardal gyfan a gorchuddio’r wynebau â gwastraff mathredig, ac o ganlyniad collwyd nodweddion y chwarel bron i gyd. Roedd cyfundrefn datblygu llystyfiant yn cael ei hystyried ym 1995. Ar wahân i’r gwaith adfer tir, nid oes unrhyw nodweddion wedi goroesi.

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005