Cefndir hanesyddol
Mae Castell Dolbadarn yn dyddio o deyrnasiad Llywelyn ab Iorwerth, ac roedd yn rhan o ddaliad brenhinol a gynhwysai vaccaries gerllaw. O ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen bu’n denu twristiaid, ysgrifenwyr ac arlunwyr, gan gynnwys Pennant a Turner, a sefydlwyd Gwesty’r Royal Victoria gerllaw cyn 1832, pan arhosodd Fictoria, darpar Frenhines Lloegr, yna. Roedd y rhaeadr gerllaw a Choedwig Fictoria hefyd at ddant y teithiwr, ac adeiladwyd terminws isaf Trên Bach yr Wyddfa yma ym 1896. Mae ‘Vaynol Cottages’, sef rhes o fythynnod a adeiladwyd ym 1906, bellach yn rhes ddeniadol o anheddau ar ffurf fila.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Tirwedd bictiwrésg
Ar wahân i’r castell, mae’r ardal yn nodedig oherwydd ei seilwaith twristiaeth yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn arbennig Gwesty’r Royal Victoria. Mae’r adeiladau wedi’u gosod yn y dirwedd ac maent yn defnyddio’r dopograffeg. Mae Trên Bach yr Wyddfa yn rhedeg trwy’r ardal, o’i derminws isaf sy’n fwriadol Alpaidd ei naws (sy’n adlewyrchu’r ffaith i’r rheilffordd rac a phiniwn hon gael ei chynllunio yn y Swistir) ar draws y draphont uwchben rhaeadr Hebron.

