43 Nant Peris

Cefndir hanesyddol

Canolbwynt cyn-fodern y dyffryn, lle y lleolir pentref Nant Peris, sef pentref gwreiddiol Llanberis.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Anheddiad, ffiniau caeau

O’r braidd y mae’r pentref ei hun wedi’i gnewyllu, er bod yr eglwys, ar lawr y dyffryn, yn ganolbwynt amlwg. Mae’r ardal yn cynnwys clostiroedd mawr afreolaidd eu siâp ar y llethrau i’r gogledd-ddwyrain a dolydd ar lawr y dyffryn. Nid oes fawr ddim tir amgaeëdig ar y llethrau mwy serth i’r de-orllewin. Mae’r ffordd a adeiladwyd yn y 1830au o Lanberis i Ben y Pás, sydd ei hun yn ôl pob tebyg yn cynrychioli llwybr a fodolai eisoes ac a wellwyd, yn rhedeg trwy’r ardal.

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005