Cefndir hanesyddol
Ardal a arferai fod yn rhan o ystad y Penrhyn, ac a gynhwysai ffriddoedd yn bennaf yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Mae rhan o’r ardal yn dal i fod yn agored, ond defnyddiwyd llawer ohoni ar gyfer tai i chwarelwyr a swyddogion chwarel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Anheddiad diwydiannol
Ardal sydd wedi cadw rhai o gaeau agored y ddefeidiog gyn-Fodern, yn ogystal â rhai safleoedd cloddio llechi a all fod yn gynnar (Chwarel Goch) ond a ddefnyddiwyd yn bennaf i adeiladu tai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn rhannol yn yr arddull frodorol, yn rhannol yn yr arddull ‘ystad-frodorol’. Mae’r rhain wedi cadw llawer o nodweddion ystad nodedig, megis y defnydd o addurniadau mewn portshys ac ati, sy’n awgrymu iddynt gael eu hadeiladu ar gyfer stiwardiaid chwarel. Mae llwybr Rheilffordd y Penrhyn a adeiladwyd ym 1801 yn mynd trwy’r ardal.

