
Cefndir hanesyddol
Cyduniad o ddau bentref chwarelwyr yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a adeiladwyd ar rannau o Waun Gynfi lle y bu sgwatwyr yn tresmasu ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.
Mae’r anheddau yn cynnwys rhai tai cynnar iawn o’r cyfnod adeiladu cyntaf (1830au), gan gynnwys unedau sengl o wahanol broffiliau, a therasau, a adeiladwyd ar hyd cwrs y ffordd lechi a chwrs rheilffordd wreiddiol Dinorwig. Ar ben hynny ceir tai yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er yr ymddengys na fu fawr ddim gwaith datblygu rhwng y 1860au a’r 1940au pan yr adeiladwyd tai cymdeithasol. Un o nodweddion trawiadol yr ardal hon yw’r ddarpariaeth seilwaith cymdeithasol ar y cyrion, sydd i’w gweld yn lleoliad eglwys Llandinorwig a Chapel y Waun, yr adeiladwyd y ddau ohonynt ar y rhostir ychydig i ffwrdd o brif ganolbwynt y pentref, ac yn llyfrgell Carnegie yn union i’r gogledd o’r pentref.
Mae cwrs rheilffordd y chwarel a adeiladwyd ym 1825 bellach yn ffordd; yn agos at y man lle y mae’n croesi Afon Galedffrwd, mae safleoedd nifer o felinau i’w gweld. Lleolir adeilad y ffatri a adeiladwyd o frics yn SH 5708 6368 o fewn yr ardal hon.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddols
Anheddiad diwydiannol (chwarel lechi)
Dengys morffoleg y ddau bentref y pwysau a oedd ar dir at ddibenion adeiladu tra roedd y chwareli yn ehangu, yn ogystal ag amharodrwydd chwarelwyr i fyw ar ystad y Faenol. Defnyddiwyd pob cornel o’r caeau a oedd ar gael i’w hadeiladu.
Mae Deiniolen yn arbennig hefyd yn enghreifftio’r mathau cynharaf o dai cwbl ddiwydiannol yng Ngwynedd, yr ymddengys na ddylanwadwyd arnynt gan anheddau amaethyddol brodorol. I ddechrau ceir tai bychain wedi’u hadeiladu’n wael ar hyd y ffordd lechi, yn dyddio o’r 1820au, Rhes Fawr sy’n fwy sylweddol, a’r tai â dwy ystafell ar y llawr gwaelod a dwy ystafell ar y llawr cyntaf a adeiladwyd yn y 1860au.
Mae Clwt-y-Bont yn fwy nodweddiadol o aneddiadau diwydiannol cynnar yng Ngwynedd am nad yw mor amlwg iddo gael ei gynllunio, ac mae’r terasau byr nodweddiadol wedi’u hadeiladu i mewn i’r llethr i’w gweld yma. Mae ei gynllun yn galw i gof gwrs Rheilffordd Dinorwig a adeiladwyd ym 1825 ac yn cadw cwrs y rheilffordd honno. Mae safleoedd nifer o felinau i’w gweld, a thyfodd rhai yn weithdai o gryn faint, sy’n dal i gael eu defnyddio.
Mae seilwaith cymdeithasol y ddau bentref yn drawiadol, er ei bod yn amlwg bod yn rhaid i lawer o’r seilwaith hwnnw gael ei adeiladu dipyn i ffwrdd o’r prif stoc tai. Yn ogystal â’r capeli yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, eglwys Kennedy sy’n adeilad sylweddol a’r ysgolion, mae llyfrgell Carnegie yn nodwedd ddeniadol.
Mae cyni amlwg yr ardal ei hun yn adlewyrchu’r anhrefn gymdeithasol a achoswyd pan gaeodd Chwarel Dinorwig ym 1969.
