Cefndir hanesyddol
Mae hon yn ardal fach a chymhleth sy’n dangos tystiolaeth o anheddu a gweithgarwch trefnu’r dirwedd dros nifer o gyfnodau olynol. Mae’n bosibl nodi o leiaf dri chyfnod o batrymau caeau, gyda rhai ffiniau ‘cyfredol’ yn adlewyrchu cynlluniau cynharach, ynghyd â ffiniau a balciau creiriol. Ceir aneddiadau cynhanesyddol a chanoloesol creiriol hefyd, tra bod gan yr ardal batrwm o ffermydd bach, gwasgaredig ar gyrion y tir amgaeëdig, yn aml ym mhen llwybrau cul, troellog. Yn ddiau mae rhai yn dresmasiadau yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae patrwm cymhleth o lwybrau bach yn cris-croesi’r ardal, a cheir lefelydd prawf bach.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Palimpsest o ffiniau caeau, archeoleg greiriol, ffermydd gwasgaredig, llwybrau a lonydd troellog
Ardal gymhleth yn cynnwys manylion bach yn gysylltiedig â llawer o gyfnodau, o fewn fframwaith o gaeau bach, afreolaidd eu siâp, gyda llawer ohonynt yn dyddio o’r 18fed ganrif. Mae’r patrwm anheddu gwasgarog i’w briodoli i anheddu cynharach yn yr ardal hon, ac mae cryn botensial ar gyfer ymchwilio i’r modd y datblygodd y dirwedd mewn ardal gyfyngedig a disgrifio’r datblygiad hwnnw.

