35 Rhaeadr Fawr

Cefndir hanesyddol

Crognant sydd wedi’i thorri’n ddwfn i’r llethrau sy’n wynebu’r gogledd yr ymddengys fod ei nodweddion pictiwrésg yn cael eu gwerthfawrogi gan ystadau Bulkeley a’r Penrhyn, ei pherchenogion olynol. Roedd y rhan fwyaf o’r ardal hon yn rhan o Faenor Aber, er bod Bodsilin yn drefgordd rydd. Ymddengys bod y planhigfeydd o goed yn dyddio o ddegawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a newidiwyd y ffiniau gryn dipyn yn yr ugeinfed ganrif. Erbyn hyn mae llawer o’r ardal wedi’i cynnwys fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol (NNR).

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Archeoleg greiriol, coetir

Ardal ddeniadol sy’n cael llawer o ymwelwyr ac sy’n cynnwys cyfoeth o olion archeolegol creiriol. Ar hyn o bryd mae’n destun arolwg manwl a chynllun rheoli sy’n cael eu cyflawni gan GAT ar ran Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005