Cefndir hanesyddol
Pentref glan môr ym mhen dyffryn amgaeëdig sy’n gysylltiedig ag un o lysoedd y tywysogion Canoloesol a’i faenor. Nid yw’r mwyafrif o’r anheddau presennol yn hun na’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac fe’u hadeiladwyd naill ai gan ystad Bulkeley neu gan eu holynwyr, ystad y Penrhyn. Y mwd yw nodwedd amlycaf y pentref, yn weledol ac yn hanesyddol.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Mwnt canoloesol, pentref ystad
Mae’r math nodedig o bensaernïaeth bwthyn, wedi’i hysbrydoli gan y traddodiad brodorol ond yn dangos dylanwad yr arddull fonheddig, yn amlwg yma, yn dyddio o’r cyfnod pan oedd y pentref yn eiddo yn gyntaf i ystad Bulkeley ac wedyn ystad y Penrhyn.

