Cefndir hanesyddol
Roedd yr ardal hon yn rhan o’r ffridd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac fe’i hamgaewyd ar ôl hynny gan ystad y Penrhyn. Yn ystod rhyfeloedd Napoleon anogwyd y chwarelwyr i dyfu tatws yma, a sefydlwyd y rhesi o anheddau yn raddol rhwng y 1830au a’r 1870au.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Anheddiad diwydiannol (chwarel lechi), ffensys llechi, croglofftydd
Anheddiad gweithwyr nodedig yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cynnwys rhesi o groglofftydd brodorol o ran eu hysbrydoliaeth, ond lle y mae’r dylanwad bonheddig yn amlwg, a lleiniau hir a wahenir gan ffensys llechi.

