32 Dyffryn Ogwen

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal fach hon yn cynnwys dyffryn coediog cul, a arferai fod yn rhan o ystad y Penrhyn; arferai’r darn hwn o’r afon yrru dwy felin þd o eiddo’r ystad, ac mae nifer o bontydd ffordd a rheilffordd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ei chroesi. Roedd Coed Cochwillan a Melin Cochwillan yn rhan o economi ystad Cochwillan ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Coetir, ffordd Telford, llwybrau

Ardal o goetir aeddfed mewn culffordd, a groesir gan ffordd Telford a llinell leol yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sy’n ymagor i ddyffryn afon llydan. Mae’r ddwy felin (Cochwillan a Choetmor) yn nodweddion amlwg. Mae nifer o lwybrau yn rhedeg trwy’r ardal.

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005