Cefndir hanesyddol
Arferai’r ardal hon fod yn rhan o ystadau’r Penrhyn, Madryn, Gorddinog a Bulkeley. Roedd yr ardal o amgylch fferm Henfaes yn Aber yn rhan o faenor Aber, y credir iddi ddeillio o’r faerdref sy’n gysylltiedig â’r llys yn Aber. Newidiwyd yr holl arfordir yn llwyr pan gyrhaeddodd y rheilffordd a’r briffordd yn y 19eg ganrif, ac nid oes fawr ddim tystiolaeth o’r modd yr oedd wedi’i threfnu cyn hynny.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Clostiroedd mawr, rheolaidd eu siâp, ffermydd sylweddol, cysylltiadau ffyrdd a rheilffordd
Ardal o iseldir yn ffinio ag Afon Menai. Y ffermdai ystad mawr yw nodweddion amlycaf yr ardal ac fe’i rhennir yn glostiroedd mawr rheolaidd eu siâp. Mae’r briffordd a’r cysylltiadau rheilffordd rhwng gogledd-orllewin Cymru a gogledd Lloegr yn nodweddion amlwg yn y dirwedd, a hwy sy’n bennaf gyfrifol am ei golwg bresennol.

