Cefndir hanesyddol
Porthladd ar gyfer cludo llechi ar longau a adeiladwyd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen o amgylch anheddiad glan môr cynharach. Mae’r ardal yn cynnwys nifer o eitemau o seilwaith diwydiannol megis warws o eiddo’r tollau, sied locomotifau, swyddfa bost ac odynau calch.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Porthladd
Enghraifft eithriadol o dirlun porthladd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae hefyd yn enghraifft anarferol o ardal ddiwydiannol lle y mae dylanwad pensaernïaeth fonheddig i’w weld mewn nifer o adeiladau. Adeiladwyd y porthladd ei hun a’r mwyafrif o’r adeiladau o galchfaen o Benmon.

