Cefndir hanesyddol
Tirwedd o dir pori wedi’i wella a chuddfannau planedig ar hyd Afon Menai ac yn ymestyn i fyny at gopa’r esgair sy’n rhedeg yn gyfochrog â hi. Arferai llawer o’r ardal fod yn drefgordd ganoloesol eglwysig, wedi’i lleoli o amgylch yr eglwys ar lan Afon Menai, ac fe’i newidiwyd yn gyfan gwbl gan ystad y Faenol.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Caeau rheolaidd eu siâp, coetir, ffermydd
Tirwedd wedi’i rheoli, gerllaw demên y Faenol, y mae’n amlwg iddi gael ei datblygu at ddibenion saethu. Mae adeiladau’r fferm yn strwythurau sylweddol a adeiladwyd o garreg leol.

