Cefndir hanesyddol
Cyfuniad anarferol o borthladd a phentref ystad, sydd â chymeriad bonheddig pendant. Mae’r porthladd yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer cychod hwylio; mae tirlun y porthladd a’i elfennau cyfansoddol wedi goroesi i raddau helaeth, er i fflatiau deulawr gael eu hadeiladu ar y cei llechi. Mae nifer o nodweddion cynnar i’w gweld o hyd ar y lan i’r gorllewin e.e. lofft hwyliau a glanfa ffer.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Anheddiad diwydiannol (porthladd)/pentref ystad
Mae’r stoc adeiladau yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bennaf ac mae’n cynnwys amrywiaeth o arddulliau pensaernïol a deunyddiau adeiladu. Gwnaed rhywfaint o ddefnydd o gerrig o’r tu allan i’r ardal leol, gan gynnwys gwenithfaen Aberdeen a gludwyd i’r ardal fel balast ar y llongau. Gwnaed cryn ddefnydd o frics melyn, megis yn yr hen orsaf a siop fawr Arvonia, er bod llawer o strwythurau wedi’u chwipio â gro. Mae gan lawer o’r adeiladau nodweddion addurnol, megis ferandâu a rheiliau.

