24 Llanddeiniolen/Dinorwic

Cefndir hanesyddol

Ardal a fu’n eiddo yn rhannol i ystad y Faenol, yn rhannol i ystad Glascoed. Roedd wedi’i hamgáu erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, yn llawer cynharach o bosibl.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Caeau bach afreolaidd eu siâp, lonydd troellog, archeoleg greiriol

Ardal o glostiroedd bach afreolaidd eu siâp a choedwigoedd, a lonydd troellog. Yr elfen amlycaf yn yr ardal hon yw’r fryngaer yn Ninas Dinorwig. Mae’n cynnwys yr eglwys yn Llanddeiniolen.

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl, Ymddiriedolaeth Archaeoloegol Gwynedd, 100017916 2005