Cefndir hanesyddol
Mae tirwedd donnog llwyfandir Arfon yn cynnwys tir pori wedi’i wella yn bennaf, yr arferai’r rhan fwyaf ohono fod yn eiddo i ystad y Faenol. Mae patrwm y ffermdai (e.e. Carreg Goch, Tyddyn Conclog, Tyddyn Oer) a’r adeiladau allan sylweddol yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn nodweddiadol o’r ystad. Mae’r dirwedd yn frith o aneddiadau cynhanesyddol creiriol (grwpiau o gytiau a cheyrydd bach), fel arfer yng nghorneli caeau, a dengys rhai caeau batrwm cromliniol sy’n nodweddiadol o’r cyfnod hwn.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
gwastadedd, rhywfaint o archeoleg greiriol
Ardal eang o gymeriad amrywiol. Y nodweddion amlycaf yw clostiroedd mawr a ffermydd gwasgaredig.

