Cefndir hanesyddol
Ardal a amgaewyd gan ystad y Faenol ym 1814. Nid ymddengys ei bod yn cynnwys unrhyw olion creiriol cynhanesyddol na chanoloesol, ac ymddengys fod yr anheddiad a’r clostiroedd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
clostiroedd bach diweddar, tyddynnod, llwybrau troed
Ardal o ucheldir creigiog yn cynnwys clostiroedd a thyddynnod, gyda llawer o’r anheddau yn adfeilion. Ymddengys y clostiroedd llai o faint mewn pocedi ymhlith y brigiadau, yn aml o amgylch llynnoedd bach lle y mae tir âr. Mae’r twr cyfathrebu ar ei chopa yn nodwedd amlwg. Nid oes unrhyw lwybrau â metlin arnynt, dim ond rhwydwaith o lwybrau troed yn dilyn ymylon a phatrymau’r clostiroedd.

