Cefndir hanesyddol
Dau lyn rhewlifol, a wahenir gan y garreg frig y saif castell Dolbadarn arni. Mae lefel y llyn uchaf (Llyn Peris) yn codi ac yn gostwng pan fydd y cynllun storfa bwmpiedig ar waith. Gwnaed defnydd helaeth o’r llynnoedd at ddibenion cludo o’r cyfnod canoloesol hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gellir gweld safleoedd y ceiau mewn nifer o fannau. Yn arbennig, bu’r mwyngloddiau copr gerllaw Llyn Peris yn allforio eu mwyn ar gychod nes i’r ffordd trwy’r bwlch gael ei hadeiladu c. 1830, a’r llyn oedd y brif ffordd allan ar gyfer llechi Dinorwig o 1787 hyd 1812.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Llynnoedd
Y brif ffordd a ddefnyddid i gludo nwyddau i Nant Peris ac oddi yno o’r cyfnod canoloesol hyd y 1820au yr arweiniai cyfres o gysylltiadau trafnidiaeth Ddiwydiannol gynnar ati. Darganfuwyd nifer o gychod afon hanesyddol yn y llyn isaf. Erbyn hyn gellir draenio’r llyn uchaf fel rhan o’r cynllun storfa bwmpieidig.

