Cefndir hanesyddol
Pentref yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a adeiladwyd ar batrwm amgáu cynharach, yn dyddio o bosibl o’r ddeunawfed ganrif, ar y dolydd gerllaw Afon Rhyddallt. Ni nodir unrhyw anheddiad ar y map o ystad y Faenol dyddiedig 1778, ond ymddengys i felinau gael eu sefydlu yn yr ardal ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ymddengys i’r pentref ehangu ar ôl i linell leol yr LNWR agor ym 1869 a gwasanaethau teithwyr gael eu darparu ar Reilffordd Padarn.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Anheddiad diwydiannol (Chwarel lechi)
Mae’r pentref, sydd i bob pwrpas yn dri datblygiad hirgul ar ffurf triongl, yn cynnwys enghreifftiau o bob math o annedd yn amrywio o anheddau yn yr arddull frodorol yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i anheddau modern ar ffurf haciendas. Fodd bynnag, nid yw’r tai wedi ymgyfuno i ffurfio cymuned gwbl drefol, ond maent wedi datblygu o fewn caeau agored, gyda llawer ohonynt yn dal yno ac yn dal i gael eu ffermio.

